Cressida

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y cymeriad yw hon. Am y lloeren a enwir ar ei hôl, gweler Cressida (lloeren).

Cymeriad sy'n ymddangos yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r Dadeni mewn chwedlau a cherddi sy'n adrodd hanes chwedlonol Rhyfel Caerdroea yw Cressida (hefyd Cresyd, Criseida, Cresseid neu Criseyde). Merch o Gaerdroea ydyw, a bortreadir fel merch i Chryses neu Calchas. Mae hi'n syrthio mewn cariad â'r arwr Troilus, un o feibion y brenin Priam, ond ar ôl cael ei anfon fel gwystl at y Groegiaid sy'n gwarchae Caerdroea mae hi'n syrthio mewn cariad â Diomedes. Mae enw'r cymeriad yn dod o enw'r ferch Roegaidd chwedlonol Chryseis.

Ymhlith y gweithiau sy'n adrodd hanes Cressida ceir cerdd gan Chaucer, un arall - The Testament of Cresseid - gan yr Albanwr Robert Henryson, y ddrama Troilus a Chressida gan Shakespeare, a'r ddrama Gymraeg Troelus a Chresyd.