Craigadwywynt (bryngaer)

Oddi ar Wicipedia
Craigadwywynt
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEfenechtyd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.07941°N 3.31292°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ1214854382 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE073 Edit this on Wikidata

Mae Bryngaer Craigadwywynt (neu Fryngaer Craig-Adwy-Wynt) yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Pwllglas ac Efenechtyd, Sir Ddinbych, Cymru; cyfeirnod OS: SJ121543.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE073.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.[2]

Penwyd maint y fryngaer gan ddaearyddiaeth y graig lle saif, yn union gyferbyn i Bwllglas i'r gogledd-orllewin a Graigfechan rhyw 3 cilometr i'r dwyrain. Hyd y gaer yw 154 metr (Gog-De) ac mae'n 94 metr o led, yn y fan lletaf. Mae'r ochr sy'n wynebu Pwllglas yn hynod o serth, sy'n gweithredu fel amddiffynfa naturiol. Oddi fewn hefyd, ceir sawl craig serth, sydd hefyd yn gweithredu fel amddiffynfa naturiol ac yn rhannu'r gaer yn ddwy ran.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. Gwefan Coflein; adalwyd 15 Hydref 2022.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  5. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.