Crëyr Glas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crëyr Glas
Ardea cinerea.jpg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Ciconiiformes
Teulu: Ardeidae
Genws: Ardea
Rhywogaeth: A. cinerea
Enw deuenwol
Ardea cinerea
Linnaeus, 1758

Mae'r Crëyr Glas (Ardea cinerea) yn un o deulu'r Ardeidae, y creyrod. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop ac Asia.

Nid yw'r Crëyr Glas yn aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n byw yn y rhan ogleddol o Ewrop ac Asia yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin yn y gaeaf. Mae'n aderyn mawr, 1 m o daldra a 1.5 m ar draws yr adenydd. gyda gwddf hir a thenau. Mae'r plu yn llwydlas ar y cefn ac yn wyn oddi tano.

Fel rheol mae'r Crëyr Glas yn nythu mewn coed gweddol uchel, heb fod ymhell o lyn, afon neu rywle arall y gellir dal pysgod. Maent yn nythu gyda'i gilydd fel rheol, yn ffurfio "creyrfa", a gallant ddefnyddio yr un coed am flynyddoedd lawr. Ambell dro gallant nythu ar lawr lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

Pysgod bach a llyffantod yw eu bwyd fel rheol, ac maent yn eu dal drwy aros yn llonydd ger y dŵr nes gweld cyfle i drywanu'r prae gyda'r pig hir a miniog. Ambell dro gellir eu gweld mewn caeau yn hela llygod ac anifeiliaid bychain eraill, ac mae cofnodion amdanynt yn bwyta adar gweddol fawr.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill