Cowboy Morgan Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cowboy Morgan Evans yn 14 oed.
Evans yn cystadlu yng Ngerddi Madison yn 1927.

Pencampwr rodeo enwog o Texas, yr Unol Daleithiau (UDA) oedd Charles "Cowboy" Morgan Evans (19 Chwefror 190315 Ebrill 1969). Roedd yn gweithio ym meysydd olew Texas ac fel rancher am y rhan fwyaf o'i oes. Roedd o dras Cymreig.

Ganed Evans yn Huff, Texas, yn 1903.

Enillodd Evans Bencampwriaeth Bulldogging Cyfres Rodeo y Byd 1927 yng Ngerddi Sgwar Madison, Dinas Efrog Newydd. Cofnodir camp Cowboy Evan yn y 'Rodeo Hall of Fame' yn y National Cowboy & Western Heritage Museum yn Ninas Oklahoma, Oklahoma.

Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.