Coup d'état De Fietnam, 1963

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn Nhachwedd 1963 cafodd Ngô Đình Diệm, Arlywydd De Fietnam, ei ddymchwel mewn coup d'état gan garfan o swyddogion Byddin Gweriniaeth Fietnam oedd yn anghytuno â'i fodd o ymateb i'r argyfwng Bwdhaidd a'i ormes o grwpiau cenedlaethol wrth frwydro yn erbyn y Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol. Cychwynnodd y coup ar 1 Tachwedd dan arweiniad y Cadfridog Dương Văn Minh, a chafodd Diệm a'i frawd Ngô Ðình Nhu eu dal a'u lladd ar 2 Tachwedd.

Roedd gweinyddiaeth John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ymwybodol o'r cynlluniau am coup, ond datganodd "Cebl 243"—neges a ddanfonwyd at y Llysgennad Henry Cabot Lodge, Jr. gan Adran y Wladwriaeth—yr oedd yn bolisi yr Unol Daleithiau i beidio ag atal dymchweliad Diệm.

Flag Vietnam template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Fietnam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.