Corsygedol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cors y Gedol)
Corsygedol
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolystad Corsygedol Edit this on Wikidata
Lleoliadystad Corsygedol, Dyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
SirDyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr157.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7871°N 4.07726°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethTeulu Fychan Corsygedol, Mostyn Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Plasdy hynafol sy'n ffermdy heddiw, ym mhlwyf Llanddwywe (Llanddwywe-is-y-graig), ger Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd, yw Corsygedol (cyfeiriad grid SH600231). Mae ganddo le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel aelwyd i deulu o noddwyr beirdd a chartref i gasgliad o lawysgrifau Cymraeg, yn cynnwys Llyfr Gwyn Corsygedol.

Gorwedd y plasdy, sy'n fferm y dyddiau hyn, tuag un milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ger lan afon Ysgethin, ar esgair sy'n codi i fryniau'r Rhinogydd, yn Ardudwy.

Corsygedol heddiw: y porthdy gyda'r plasdy yn y cefndir

Cyrchai beirdd Gwynedd y plasdy i fwynhau nawdd Fychaniaid Corsygedol am yn agos i dair canrif a hanner. Mae'r cerddi cynharaf yn dyddio i ddiwedd y 15g, ond credir y bu'n blasdy pwysig ymhell cyn hynny hefyd. Dechreuwyd adeiladu'r plasdy presennol gan Rhisiart Fychan yn 1576, ac ychwanegwyd iddo gan ei fab Gruffudd Fychan. Yn 1630 ychwanegwyd y porth mawr gan William Fychan, mab Gruffudd.

Canodd y bardd Gruffudd Philip i Gorsygedol ddechrau'r 17g:

Gwal y gaer yn glaer deg lân,
Gwydr troeog ydyw'r traean.[1]

Edmyga'r bardd y ffenestri gwydr ardderchog, un o newyddbethau'r oes. Cerrig lleol a ddefnyddwyd i godi'r plasdy, sy'n nodweddiadol hefyd am ei simneiau mawr yn arddull lleol y rhan honno o Sir Feirionnydd.

Trwy gydbriodas, unwyd aelwyd Corsygedol a theulu Nannau, ger Dolgellau. Yr aelod mwyaf adnabyddus o'r teulu yn y cyfnod hwnnw yw William Vaughan (AS) (1707-75), Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd ac un o gyfellion pennaf y Morysiaid, yn enwedig Lewis Morris.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. dyfynnir gan Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]