Cors Vasyugan

Oddi ar Wicipedia
Cors Vasyugan
MathBroek Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Tomsk, Rwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd53,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.57°N 75.65°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Cors Vasyugan (Rwseg: Васюганские болота) yw'r gors fwyaf yn hemisffer y Gogledd. Fe'i lleolir yng ngorllewin Siberia, Rwsia, yn yr ardal eang a adnabyddir fel Gwastadedd Gorllewin Siberia.

Mae'r gors yn gorwedd ar wastadedd sy'n cynnwys rhannau o dri oblast, sef Oblast Novosibirsk, Oblast Omsk ac Oblast Tomsk. Tardda Afon Vasyugan ac Afon Om yn y gors, sy'n ffynhonnell dŵr croyw sylweddol sy'n bwydo sawl afon. Mae'n bwysig am ei bywyd gwyllt hefyd ond mae hynny dan bwysau oherwydd yr awydd i ddatblygu adnoddau olew a nwy yr ardal.

Ffurfwyd y gors tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi tyfu ers hynny; credir mai dim ond yn ystod y 500 mlynedd diwethaf y crewyd 75% o arwynebedd y gors.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]