Copr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Copper)
Copr
Mwynglawdd Copr Y Gogarth Fawr, Cymru - mwynglawdd cynhanes mwya'r byd
Enghraifft o'r canlynolelfen gemegol, sylweddyn syml Edit this on Wikidata
Mathdeunydd, meddyginiaeth, metel Edit this on Wikidata
Lliw/iaubrowngoch Edit this on Wikidata
Màs63.546 ±0.003 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolCu edit this on wikidata
Dyddiad darganfodc. Mileniwm 7. CC Edit this on Wikidata
SymbolCu Edit this on Wikidata
Rhif atomig29 Edit this on Wikidata
Electronegatifedd1.9 Edit this on Wikidata
Cyflwr ocsidiad1.9 Edit this on Wikidata
Rhan oproteinau copr, elfen cyfnod 4, Elfen Grŵp 11 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Metel coch yw copr sy'n gynhwysyn pres ac efydd. Mae e'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Cu a'r rhif atomig 29.

Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gydag ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Gwneir defnydd sylweddol o gopr mewn electroneg, gan ei fod yn ei ffurf bur yn dargludo gwres a thrydan yn dda.

Copr

Mae'r enw yn dod o'r ynys Cyprus, lle cafodd copr ei gloddio yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig. Mwyngloddiwyd copr ers c. 8000 CC a'i mwyndoddi a'i siapio tua c. 5000 CC.

Mae galwad uchel am gopr wedi achosi codiad mawr mewn pris copr ar y marchnadoedd rhyngwladol ers 2000.

Lliw[golygu | golygu cod]

Mae i fetel copr lliw coch, oren neu frown fel arfer, am fod haen o amhureddau (megis ocsidau copr) yn ffurfio lle mae copr yn dodi gyswllt ag aer. Er hyn, lliw pinc hufenog sydd gan gopr pur. Ynghyd ag Osmiwm (glas) ac Aur, mae'n un o'r unig dri metel elfennol nad yw'n llwyd neu'n arian ei liw; daw'r lliw llwyd o'r môr electronau sy'n gallu amsugno ac ail-allyrru golau ar ystod o donfeddi. Mae lliw anarferol Copr yn ganlyniad i'w strwythr electronig unigryw. Yn ôl rheol Madelung, dylid llenwi'r is-blisgyn 4s cyn llenwi'r plisgyn 3d, ond mae Copr yn eithriad i'r rheol gan fod ganddo'r strwythur (Ar) 3d 10 4s 1 (hynny yw, mae'r is-blisgyn 4s yn hanner llawn, a'r 3d yn llawn). Mae lefel egni un photon o olau glas neu fioled yn cyfateb i'r naid rhwng y plisgyn 3d a'r plisgyn 4s. Felly mae'n amsugno golau glas a fioled wrth ddyrchafu electronnau i blisgyn 4s, gan rhoi lliw coch iddo gan fod y golau coch yn cael ei adlewyrchu. Mae effaith tebyg i'w weld gydag electronau 5s/4d mewn Aur. Yn eu cyflyrau hylifol, mae arwyneb copr ac aur yn ymddangos yn wyrdd os nad oes golau yn disgleirio arno o'r tu allan, ond dan olau cryf mae lliw pinc copr yn dal i'w weld.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Chwiliwch am copr
yn Wiciadur.