Conrad II, Ymerawdr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Conrad II "Brenin y Rhufeiniad" yn diogelu'r Eglwys (darlun o lawysgrif Almaenig, c. 1330)

Roedd Conrad II (c.990-1039) yn frenin yr Almaen (o 1024) ac Ymerodr Glân Rhufeinig (o 1027 hyd ei farwolaeth).

Roedd Conrad yn fab i Ddug Franconia a sefydlydd brehinllin Salia.

Yn 1026, croesodd yr Alpau â'i fyddin i ostwng gwrthryfel yng ngogledd yr Eidal. Cafodd ei goroni ym Milan a'r flwyddyn ar ôl hynny fe'i coronwyd yn ymerodr gan y Pab Ioan XIX (1024-1032).

Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i'r Almaen yn fuan ar ôl hynny i dawelu cyfres o bedwar gwrthryfel, yr hyn a wnaed erbyn 1033. Yn yr un flwyddyn fe'i coronwyd yn frenin Bwrgwyn. Yn 1036 torrodd gwrthryfel newydd allan yn yr Eidal; llwyddodd i drechu'r gwrthryfelwyr ond bu rhaid iddo ildio nifer o freintiau i'w ddeiliaid Eidalaidd.

Canodd yr offeiriad a llenor Wipo farwnad iddo pan fu farw yn Utrecht yn 1039, ychydig ar ôl iddo ddychwelyd o'r Eidal. Cafodd ei olynu gan ei fab Harri III.

Rhagflaenydd:
Harri II
Brenin yr Almaen
10241039
Olynydd:
Harri III
Rhagflaenydd:
Harri II
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
10271039
Olynydd:
Harri III
Rhagflaenydd:
Harri II
Brenin yr Eidal
10271039
Olynydd:
Harri III
Rhagflaenydd:
Rudolff III
Brenin Arles
10321039
Olynydd:
Harri III