Conrad Black

Oddi ar Wicipedia
Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Black o Crossharbour OC PC KCSG
Conrad Black


Deiliad
Cymryd y swydd
31 Hydref 2001

Geni (1944-08-25) 25 Awst 1944 (79 oed)
Cenedligrwydd Canadiad (1944–2001)
Prydeiniwr (1999–presennol)
Priod Joanna Hishon (1978–1992)
Barbara Amiel, y Foneddiges Black (1992–presennol)
Plant 2 fab, 1 ferch
Alma mater B.A. Prifysgol Carleton, LL.L. Prifysgol Laval, M.A. Prifysgol McGill
Galwedigaeth Hanesydd, bywgraffydd, colofnydd, cyhoeddwr papurau newydd, buddsoddwr
Crefydd Catholig

Awdur, colofnydd, cyhoeddwr, buddsoddwr, ac aelod o Dŷ'r Arglwyddi y Deyrnas Unedig a aned yng Nghanada yw Conrad Moffat Black, Barwn Black o Crossharbour, OC, PC (Can.), KCSG (ganwyd 25 Awst 1944) oedd am bryd yn fogwl papurau newydd trydydd fwyaf y byd.[1] Rheolodd Hollinger International, Inc. Trwy gwmnïau cyswllt, cyhoeddodd y cwmni nifer o bapurau newydd mawr gan gynnwys The Daily Telegraph (y DU), Chicago Sun Times (UDA), Jerusalem Post (Israel), National Post (Canada), a channoedd o bapurau cymunedol yng Ngogledd America. Ganwyd Black ym Montreal, ond ildiodd ei ddinasyddiaeth Ganadaidd yn 2001 er mwyn dod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Mae'n briod i'r colofnydd ceidwadol Barbara Amiel.

Cafwyd yn euog o dwyll gan lys Americanaidd yn 2007 a dedfrydwyd i chwe mlynedd a hanner yn y carchar. Ar 19 Gorffennaf 2010 cafodd Black ei fechnïo. Dymchwelwyd dau o'r tri chyhuddiad olaf o dwyll post ym mis Hydref 2010 gan 7fed Lys Cylchdaith Apeliadau'r Unol Daleithiau.[2] Ar 24 Mehefin 2011 ailddedfrydwyd ar y cyhuddiad olaf o dwyll post ac un gyhuddiad o rwystro cyfiawnder gan dderbyn 42 mis yn y carchar a dirwy o $125,000 (USD). Cynhwysir y 29 mis y mae Black wedi gwasanaethu'n barod yn y ddedfryd hon, ac felly mae'n rhaid iddo ddychwelyd i'r carchar am 13 mis arall.[3] Wedi iddo ddychwelyd i garchar ym Miami ym mis Medi, cafodd ei ryddhau'n gynnar ar 4 Mai 2012 am ymddygiad da.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Conrad Black: Where did it all go wrong. BBC (27 Chwefror 2004).
  2. (Saesneg) Conrad Black granted bail. Toronto Star (19 Gorffennaf 2010).
  3. (Saesneg) Black sent back to jail for 13 months. Globe and Mail (24 Mehefin 2011).
  4. (Saesneg) Conrad Black released from Miami prison. BBC (4 Mai 2012).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: dymchwel, 7fed Lys Cylchdaith Apeliadau'r Unol Daleithiau o'r Saesneg "overturn, U.S. 7th Circuit Court of Appeals". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.