Conor Cruise O'Brien

Oddi ar Wicipedia
Conor Cruise O'Brien
Ganwyd3 Tachwedd 1917 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 2008 Edit this on Wikidata
Howth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethawdur, gwleidydd, diplomydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddMinister for Posts and Telegraphs, Aelod Senedd Ewrop, Teachta Dála, Teachta Dála, Seneddwr Gwyddelig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Siege: The Saga of Israel and Zionism Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Iwerddon Edit this on Wikidata
MamKathleen Cruise O'brien Edit this on Wikidata
PriodMáire Mhac an tSaoi Edit this on Wikidata

Gwleidydd, awdur a newyddiadurwr Gwyddelig oedd Conor Cruise O'Brien (3 Tachwedd 1917 - 18 Rhagfyr 2008).[1]

Ganed O'Brien yn Nulyn yn fab i Francis ("Frank") Cruise O'Brien a Kathleen Sheehy. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, ac yn ddiweddarach cafodd swyddi fel diplomydd. Daeth i amlygrwydd fel cynrychiolydd Dag Hammarskjöld, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig pan geisiodd talaith Katanga ymrannu oddi wrth y Congo yn 1961.

Yn etholiad 1969, etholwyd ef i Dáil Éireann fel aelod o Blaid Lafur Iwerddon. Wedi etholiad 1973, daeth yn weinidog dros y gwasanaeth post a theligraff yn llywodraeth Liam Cosgrave. Roedd yn nodedig am ei wrthwynebiad cryf i'r mudiad gweriniaethol yn Iwerddon. Rhwng 1979 a 1981, bu'n olygydd y papur newydd The Observer yn Lloegr. Yn 1996, daeth yn aelod o Blaid Undebol y Deyrnas Unedig yng Ngogledd Iwerddon; ymddiswyddodd yn ddiweddarach.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Máire a Conor Cruise O'Brien:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Conor Cruise O'Brien. The Guardian (19 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2012.