Conffit

Oddi ar Wicipedia
Conffit

Melysyn sy'n cynnwys cneuen neu hedyn a orchuddir gan nifer o haenau o siwgr yw conffit,[1][2] conffet,[1] cwmffet,[1][3] neu cwnffet.[3] Yn yr 17g darganfyddodd gwneuthurwyr melysion sut i newid ansawdd conffits drwy newid cyfran y siwgr yn y surop a ddefnyddir. Yng Ngwledydd Prydain arferid gwneud conffits caru, neu losin caru, o hadau carwe i bereiddio'r anadl. Yn ogystal â'i fwyta fel melysion ar ben eu hunain, cafodd conffits hefyd eu defnyddio mewn melysfwydydd a phwdinau eraill megis gwneud teisen garwe gyda chonffits carwe.[4]

Maent yn debyg i'r melysyn Ffrengig dragée. Heddiw tueddir i alw melysion tebyg gan eu henwau unigol, megis siwgr-almonau, melysion mân, a losin rhesog, yn hytrach na'r hen air conffit.[4]

Mae etymolet y gair conffit (neu confit) yr un gwraidd â conffeti a deflir mewn priodasau a dathliadau eraill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [comfit].
  2.  conffit. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2014.
  3. 3.0 3.1  cwnffet. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2014.
  4. 4.0 4.1 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 207.