Condor yr Andes
Oddi ar Wicipedia
| Condor yr Andes | |
|---|---|
| Sw Cincinnati | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Falconiformes (dadleuol) |
| Teulu: | Cathartidae |
| Genws: | Vultur Linnaeus, 1758 |
| Rhywogaeth: | V. gryphus |
| Enw deuenwol | |
| Vultur gryphus Linnaeus, 1758 |
|
Aderyn ysglyfaethus anferth o Dde America yw Condor yr Andes (Vultur gryphus). Mae'n perthyn i deulu'r Cathartidae, fwlturiaid y Byd Newydd. Fe'i ceir ym mynyddoedd yr Andes yn bennaf ond mae'n cyrraedd lefel y môr yn y de.
Mae'r condor rhwng 100–122 cm o hyd a 274–310 cm ar draws yr adenydd. Mae'n pwyso 7.5–15 kg. Mae'r oedolyn yn ddu gyda phen moel cochaidd, coler wen a darn gwyn ar yr adain. Mae'r adar ifainc yn frownddu gyda choler a phen brown.
Mae'n bywdo ar anifeiliaid marw megis gwanacos a defaid. Mae'n chwilio am fwyd mewn tir agored ac mae'n defnyddio clogwyni ar gyfer cysgu a nythu. Mae'n dodwy un ŵy fel rheol sy'n deor ar ôl 54–58 o ddyddiau. Gall yr aderyn ifanc hedfan ar ôl chwe mis.
Cyfeiriadau [golygu]
- Ferguson-Lees, James & David Christie (2001) Raptors of the World, Christopher Helm, Llundain.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) ARKive: Andean Condor
- (Saesneg) Internet Bird Collection: Andean Condor