Conakry
Oddi ar Wicipedia
Conakry, hefyd Konakry, yw prifddinas a dinas fwyaf Guinée yng Ngorllewin Affrica. Mae hefyd yn borthladd pwysig. Roedd y boblogaeth yn 2002 tua 2,000,000 inwoners.
Datblygodd Conakry ar ynys Tumbo, ger pen draw penrhyn Kalum. Mae cysylltiad rhwng yr ynys a'r penrhyn, ac mae'r ddinas bellach wedi ehangu i'r penrhyn. Sefydlwyd y ddinas yn swyddogol pan ildiodd y Deyrnas Unedig yr ynys i Ffrainc yn 1887.
Tyfodd yr harbwr i fod yn elfen bwysig yn economi'r wlad, yn allforio alwminiwm a bananas yn bennaf.