Comisiynydd Safonau Senedd Cymru

Oddi ar Wicipedia

Comisiynydd annibynnol a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ei swydd yw i gynghori ar faterion o egwyddor parthed ymddygiad Aelodau'r Cynulliad ac i gynnal ymchwiliadau i gwynion bod ACau wedi torri Protocolau, Codau, neu benderfyniadau'r Cynulliad.[1] Y Comisiynydd Safonau cyntaf oedd Richard Penn, a benodwyd ar 15 Mawrth 2005.[2] Gwnaed y penodiad yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad ac felly nid oedd yn benodiad statudol;[2] gosodwyd sail statudol i swydd y Comisiynydd Safonau gan Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.[3] Daeth Gerard Elias i olynu Penn i'r swydd ar 1 Rhagfyr 2010.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.