Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Oddi ar Wicipedia
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales Commission), y cyfeirir ato fel rheol fel Comisiwn y Cynulliad, yw corff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau fod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu i'r Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn cynnwys Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a phedwar Aelod o bedair plaid, pob un ohonynt gyda'i borffolio gwaith ei hun. Cefnogir y Comisiwn gan staff yr Uned Gorfforaethol.
Ar hyn o bryd (er 9 Mehefin, 2007), aelodau'r Comisiwn yw:
- Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC (Llywydd y Cynulliad)
- Lorraine Barrett, AC (Llafur)
- Peter Black, AC (Democratiaid Rhyddfrydol)
- Chris Franks, AC (Plaid Cymru)
- William Graham, AC (Ceidwadwyr)