Prifysgol Columbia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Columbia University)
Prifysgol Columbia
Mathprifysgol breifat, prifysgol ymchwil, Colonial Colleges, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, sefydliad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1754 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManhattan Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau40.8075°N 73.9619°W Edit this on Wikidata
Cod post10027 Edit this on Wikidata
Map

Prifysgol breifat yn yr Unol Daleithiau yw Prifysgol Columbia yn Ninas Efrog Newydd (neu Prifysgol Columbia ar lafar, Saesneg: Columbia University in the City of New York neu Columbia University), sy'n aelod o'r Ivy League. Lleolir prif gampws Columbia yn ardal Morningside Heights ym mwrdeistref Manhattan, yn Ninas Efrog Newydd. Sefydlwyd fel 'Coleg y Brenin' gan Eglwys Loegr, gan dderbyn Siarter Brenhinol yn 1754 gan Siôr II, brenin Prydain Fawr. Mae'n un o ond dwy brifysgol yn yr Unol Daleithiau i gael ei sefydlu dan siarter brenhinol, a'r coleg cyntaf i gael ei sefydlu yn Nhalaith Efrog Newydd, a'r pumed coleg i gael ei sefydlu yn y Tair Trefedigaeth ar ddeg. Siarterwyd y coleg fel endid yn nhalaith Efrog Newydd am gyfnod byr yn dilyn y Chwyldro Americanaidd, rhwng 1784 a 1787, ond mae'r brifysgol yn gweithredu hyd heddiw dan siarter 1787, sy'n gosod y sefydliad dan bwrdd o ymddiriedolwyr preifat.

Cynfyfyrwyr[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas Efrog Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.