Colmar
Oddi ar Wicipedia
Dinas hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc sy'n brifddinas département Haut-Rhin yn Alsace yw Colmar. Gorwedd ar lan orllewinol Afon Rhein rhwng Mulhouse i'r de a Strasbourg i'r gogledd. Mae ganddi boblogaeth o 67,163.
Fel gweddill Alsace, mae gan Colmar gysylltiadau hanesyddol cryf â'r Almaen. Meddianwyd y ddinas gan yr Almaenwyr o 1871 hyd 1919 ac eto yn yr Ail Ryfel Byd (1940-1945).
Mae ganddi nifer o adeiladau hanesyddol o'r Oesoedd Canol ymlaen, yn cynnwys y fynachlog Ddominicaidd (sefydlwyd yn y 13eg ganrif). Mae'n ganolfan i'r fasnach mewn gwinoedd Alsace ers canrifoedd.
[golygu] Dolenni allanol
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Ffrangeg) Gwefan Cyngor Dinas Colmar