Coleg Menai
| Coleg Menai | |
|---|---|
![]() |
|
| Arwyddair | Gwella Bywydau Trwy Ddysgu Improving Lives Through Learning[1] |
| Sefydlwyd | 1 Awst 1994 |
| Staff | tua 600 |
| Myfyrwyr | dros 6,000 |
| Lleoliad | Ffordd Ffriddoedd, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2TP |
| Lliwiau | Gwyrdd a glas |
| Gwefan | http://www.menai.ac.uk |
Coleg addysg bellach yng ngogledd-orllewin Cymru yw Coleg Menai. Mae'r prif gampws yn ninas Bangor, ond ceir hefyd gampws o faint sylweddol yn Llangefni, ac adrannau llai ym mharc diwydiannol Parc Menai gerllaw Bangor, yng Nghaergybi a Chaernarfon.
Sefydlwyd y coleg ar 1 Awst 1994 yn sgil uno dau goleg, sef Coleg Pencraig, Sir Fōn a Choleg Gwynedd, Bangor.[2][3]
Yn 2010, roedd gan y coleg dros 6,000 o fyfyrwyr a thua 600 o staff.[4]
Campysiau[golygu]
Lleolir prif gampws y coleg ar Ffordd Ffriddoedd, Bangor ger yr orsaf reilffordd. Ynddi mae cyfleusterau dysgu arbenigol ar gyfer busnes a rheolaeth, peirianneg, chwaraeon, hamdden a theithio. Dyma hefyd yw cartref Canolfan Ryngwladol y coleg. Mae canolfan Dysgu ac Adnoddau, lle gall myfyrwyr gyrchu ystod o wasanaethau i'w cefnogi mewn agweddau academaidd a phersonol yn y coleg.[4]
Mae'r coleg hefyd mewn partneriaeth â ysgolion lleol, caiff cyrsiau gwallt, harddwch a therapïau cyflenwol, arlwyo, croesawiaeth a thwristiaeth eu darparu yn Ysgol Friars, Bangor. Yno mae cyfleusterau'n cynnwys bwyty hyfforddi wedi ei drwyddedu yn llawn a chegin; siop goffi wedi ei redeg gan fyfyrwyr; salonau hyfforddi ac ardaloedd triniaeth. Mae’r gwasanaethau hefyd ar agor i’r cyhoedd.[4]
Lleolir prif safle'r coleg ar Ynys Môn yn Llangefni, yno darparir addysg a hyfforddiant mewn adeiladu, peirianneg modurol, iechyd a gofal cymdeithasol, sgiliau byw annibynnol a thechnoleg gwybodaeth. Mae Canolfan Technoleg Bwyd hefyd wedi ei leoli ar y campws hwn. Yn ddiweddar ychwanegwyd Canolfan Astudiaethau Gofal newydd, gan greu ffocws ar gyfer addysg a hyfforddiant yn y maes sy’n tyfu o Iechyd a gofal Cymdeithasol. Mae datblygiadau i uwchraddio cyfleusterau’r campws ymhellach bron a chael eu gorffen.[4]
Parc Menai ym Mharc Busnes Bangor sy'n gartref i Ganolfan Celfyddydau, Dylunio a Chyfryngau'r coleg, yma darparir hyfforddiant mewn arbenigeddau megis dylunio graffeg, darlunio, animeiddio, ffotograffiaeth, ffasiwn a thecstilau, cerameg, offer camera unigol a golygu fideo Ddigidol.[4]
Tŷ Cyfle yw enw campws y coleg yng Nghaergybi. Yno mae ystod lawn o gyfleusterau addysgol a hyfforddiant gan gynnwys canolfan taro heibio technoleg gwybodaeth. Mae'r coleg yn hybu mentrau yma gan gynnwys y Fargen Newydd, Rhaglen Sgiliau Sylfaenol, Mynediad i Addysg Uwch, Dychwelyd i Ddysgu, Learndirect, Gweinyddiaeth Busnes, a Chymraeg i Oedolion. Darparir hefyd ddosbarthiadau nos.[4]
Mae canolfan Coleg Menai yng Nghaernarfon. Yno mae ystod lawn o gyfleusterau addysgol a hyfforddiant gan gynnwys canolfan taro heibio technoleg gwybodaeth. Mae mentrau a hybir yma yn cynnwys Sgiliau sylfaenol, Celf a Dylunio, a Mynediad i Addysg Uwch. Mae yna hefyd amrywiaeth o raglenni busnes gan gynnwys Gofal am Gwsmeriaid, Marchnata, ac Adeiladu Tîm. Daparir hefyd ddosbarthiadau nos.[4]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Gwerthoedd. Coleg Menai.
- ↑ Adroddiad i’r Pwyllgor Menter a Dysgu - EL(3) 18-08 (p2). Cynulliad Cenedlaethol Cymru (19 Mehefin 2008).
- ↑ Adroddiad ar Ansawdd Addysg Bellach Coleg Menai. Estyn (Hydref 2002).
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 Ynglyn â'r Coleg. Coleg Menai. Adalwyd ar 29 Ionawr 2010.
