Coleg Llandrillo Cymru

Oddi ar Wicipedia
Coleg Llandrillo
Mathsefydliad academaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1965 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBae Colwyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.31°N 3.76°W Edit this on Wikidata
Map

Coleg addysg bellach yng ngogledd Cymru yw Coleg Llandrillo. Agorwyd y coleg yn swyddogol ar 23 Mehefin 1965 gan y Tywysog Philip, Dug Caeredin gyda'r enw "Coleg Dechnegol Llandrillo" (Saesneg: Llandrillo Technical College), newidiwyd yr enw i "Goleg Llandrillo" yn 2002 mewn ymateb i'r newid yn y math o addysg a ddarparwyd. Dyma'r coleg mwyaf yng ngogledd Cymru yn 2009, gyda thua 19,000 o fyfyrwyr yn cael eu haddysgu yn y coleg, yn y gweithle neu o bell. Mae'n aelod o gorff ColegauCymru.

Campysiau[golygu | golygu cod]

Lleolir prif gampws y coleg ar Ffordd Llandudno rhwng Llandrillo-yn-Rhos a Bae Penrhyn yn sir Conwy. Mae gan y coleg sawl campws arall, yn y Rhyl, Abergele, a hwb yn Llyfrgell Bae Colwyn.

Datblygwyd rhwydwaith dysgu estynedig gan y coleg, sy'n darparu gwasanaethau drwy ardal eang o ganol gogledd Cymru, mewn dros 200 o ganolfannu gan gynnwys Conwy, Llanrwst, Cyffordd Llandudno, Llandudno, Llanfairfechan, Llysfaen, Bae Colwyn, Penmaenmawr, Llandrillo-yn-Rhos, Dyserth, Meliden, Prestatyn a Llanelwy,[1], yn ogystal ag yng ngholegau cymunedol y Rhyl, Dinbych ac Abergele ac uned gynhaliaeth fasnachol yn Llanelwy. Cefnogir hefyd gan bartneriaethau amrywiol megis prosiect Rhwydwaith Pobl Llyfrgelloedd Conwy a Sir Ddinbych, gydag adnoddau’r rhwydwaith ar gael ar gyfer hyfforddi yn y gwaith.[2]

Yn y prif gampws yn Llandrillo-yn-Rhos, mae llyfrgell, theatr, theatr ddarlithio, ystafell gyfrifiaduron, undeb myfyrwyr, siop, bwyty a chanolfan Aled sy'n darparu cyfleustera cyfrifiadureg ac ystafell gyffredin ar gyfer myfyrwyr addysg bellach llawn amser.

Addysg[golygu | golygu cod]

Roedd tua 24,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru yn y coleg yn 2002/2003,[2] disgynodd hyn i 19,000 erbyn 2009.

Dysgir cyrsiau galwedigaethol ac addysg bellach yn bennaf, ond cynigir hefyd rhai cyrsiau gradd sylfaen a baglor mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Morgannwg.

Roedd Coleg Llandrillo'n un o ddau ganolfan peilot ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn 2005/2006, ynghyd ag Ysgol Gyfun Sant Cyres, Penarth. Bu tua 400 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y peilot yn Llandrillo.[3]

Uno[golygu | golygu cod]

Ar 1 Ebrill 2010 unwyd Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Llandrillo Cymru, er bod y colegau wedi uno o ran rheolaeth a gweinyddiad cadwyd yr enwau annibynnol ar gyfer y ddau gampws.[4]

Ar 2 Ebrill 2012 unwyd Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Menai i greu Grŵp Llandrillo Menai, un o golegau addysg bellach mwyaf yng Ngwledydd Prydain, ond mae'r Colegau yn parhau i gadw eu henwau fel unedau o'r grŵp fwy.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  College. Coleg Llandrillo Cymru.
  2. 2.0 2.1  Adroddiad Arolygiad Coleg Llandrillo. Estyn (Mehefin 2003).
  3.  Y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (18 Hydref 2006).
  4.  FAQ - Possible Coleg Llandrillo & Coleg Meirion-Dwyfor Partnership. Coleg Llandrillo (16 Mawrth 2009).
  5. BBC - North Wales super-college Grwp Llandrillo Menai formed from mergers adalwyd 11 Mehefin 2016

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]