Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd (Saesneg: The Royal Welsh College of Music & Drama) yn ysgol gerddoriaeth wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Sefydlwyd y Coleg ym 1949 fel Coleg Cerddoriaeth Caerdydd yng Nghastell Caerdydd, ond ers hynny mae wedi symud i adeiladau ar dir y castell ym Mharc Bute ger Prifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, cyn derbyn y teitl Brenhinol yn Jiwbili Aur y Frenhines yn 2002, y pumed ysgol gerddoriaeth i dderbyn y teitl hwn. Ers agoriad y Coleg, rhoddwyd graddau'r Coleg gan Brifysgol Cymru ac yn 2004 daeth y Coleg yn rhan o'r brifysgol ffederal. Fodd bynnag, yn 2007, gadawodd y brifysgol a daeth yn sefydliad annibynnol unwaith eto, a bellach rhoddir eu graddau gan Brifysgol Morgannwg.[1]
Darpara'r coleg addysg ac hyfforddiant yn y celfyddydau creadigol, gydag oddeutu dwy ran o dair o'i 550 o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, gyda'r gweddill yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â drama. Dyma'r unig ysgol gerddoriaeth All-Steinway yn y Deyrnas Unedig.
Cyn-fyfyrwyr [golygu]
- Rob Brydon
- Anthony Hopkins
- Ruth Jones
- Jo Joyner
- James Loye
- Eve Myles
- Kimberley Nixon
- Adrian Lewis Morgan
- Rakie Ayola
- Jan Anderson
- Steven Meo
- Zahra Ahmadi
- Dougray Scott
- Lucy Gaskell
- Anthony Stuart Lloyd
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg)http://profile.glam.ac.uk/ Gwefan Prifysgol Morgannwg. Adalwyd 13-04-2009