Coleg Sant Pedr, Rhydychen

Oddi ar Wicipedia
Coleg Sant Pedr, Prifysgol Rhydychen
Sefydlwyd 1929
Enwyd ar ôl Sant Pedr
Cyn enw Neuadd Pedr (1929-1961)
Lleoliad New Inn Hall Street, Rhydychen
Chwaer-Goleg dim chwaer-goleg
Prifathro Judith Buchanan
Graddedigion 350[1]
Graddedigion 198[1]
Myfyrwyr gwadd 19[1]
Gwefan www.spc.ox.ac.uk

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg Sant Pedr (Saesneg: St Peter's College). Saif ar safle canolog yn Stryd New Inn Hall yn Rhydychen, Lloegr. Adeiladwyd ar safle dau o'r Inns hŷnaf y Canol Oesoedd, neu westai canoloesol y brifysgol – yr un Esgob Trellick, yn ddiweddarach New Inn Hall, a Rose Hall – sefydlwyd y ddau yn y 13eg ganrif.

Mae hanes y coleg modern yn dechrau yn 1929 pan sefydlwyd Neuadd Sant Pedr gan Francis James Chavasse, Esgob Anglicanaidd Lerpwl. Yn 1961, cafodd Neuadd Sant Pedr ei enwi yn goleg llawn Prifysgol Rhydychen â'r enw Coleg Sant Pedr. Cafodd ei ffurfio fel coleg dynion, ond ers 1979 mae wedi bodoli'n cydaddysgiadol.[2]

Yn 2019 roedd gan y coleg waddolion cyllidol o £49.6 miliwn.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Llysoedd Canoloesol[golygu | golygu cod]

Er i Goleg Sant Pedr gael ei ffurfio yn y 20fed ganrif, mae lleoliad y coleg yng nghanol dinas Rhydychen, ar safle dau lys canoloesol y brifysgol. Galwodd Meistr cyntaf y coleg gaffaeliad y safle yn 'a chance of ages'.[4]

Roedd y safle yn wreddiol yn gartref i Lety Trilleck, adnabyddir yn hwyrach fel New Inn Hall, a Rose Hall. Sefdlwyd Llety Trilleck yn y 14eg ganrif gan Esgob Trilleck gan wedyn cyfuno i ffurfio Coleg Balliol yn 1887. Rhoddwyd Rose Hall i Goleg Newydd gan William Wykeham. Gwerthodd Coleg Newydd y safle i reithor Sant-Pedr-le-Bailey yn 1859 a 1868 fel safle newydd ar gyfer eglwys newydd, sydd yn awr yn gapel i'r coleg.[5]

Neuadd Sant Pedr[golygu | golygu cod]

Dechreuodd hanes y coleg yn 1923 pan ddychwelodd Francis James Chavasse, cyn-Esgob Lerpwl, i Rydychen. Roedd gan Chavasse bryderon am gost edgynnol addysg ym mhrifysgolion hŷn Prydain, a phenderfynodd i gael Sant Pedr fel coleg lle y gall myfyrwyr addawol, a fyddai fel arall yn cael eu rhwystro rhag addysg o ganlyniad i'r cost, dderbyn addysg Rhydychen.[6] Ar ôl marwolaeth Francis James yn 1928, fe lawnsiodd ei fab, Christopher Chavasse, apêl goffa yn enw ei dad er mwyn ariannu'r prosiect, gan godi £150,00 gan roddwyr yn cynnwys Ella Rowcroft er mwyn addasu ac adeiladu adeiladau newydd ar y safle.[7] Cafodd Sant Pedr drwydded gan y brifysgol fel gwesty yn y flwyddyn honno ac agorodd gyda 13 o breswylwyr. Y flwyddyn yn olynol, 1929, cafodd ei adnabod fel Neuadd Preifat Parhaol a thyfodd i gynnwyd 40 o fyfyrwyr. Cymwynaswr arwyddocaol oedd William Morris, Is-iarll Nuffield y 1af, a fyddai wedyn yn ffurfio Coleg Nuffield.[8]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth Neuadd Sant Pedr yn gartref i fyfyrwyr faciwî Coleg Westfield, coleg menywod ym Mhrifysgol Llundain, a chafodd ei fyfyrwyr symud allan i golegau arall Rhydychen.[9]

Coleg Sant Pedr[golygu | golygu cod]

Yn 1947, cafodd Sant Pedr ei ailddosbarthu fel Sefydliad Newydd, ac adnabyddir fel coleg llawn yn 1961 gan dderbyn grant Siartr Brenhinol. Yn 1979, fe ddechreuodd Coleg Sant Pedr derbyn menywod a daeth yn sefydliad cydaddysgiadol.[10]

Adeiladau[golygu | golygu cod]

Mae gan Sant Pedr nifer fawr o adailadau amrywiol, rhai ohonynt sy'n llawer yn hŷn na'r coleg ei hunain. Mae'r coleg wedi addasu adeiladau presennol er mwyn darparu'r cyfleusterau ar gyfer bywyd coleg, ac wedi adeiliadu rhai newydd er mwyn darparu llety i fyfyrwyr.

Sgwâr Linton[golygu | golygu cod]

Rheithordy Sioraidd yw Tŷ Linton sy'n dyddio o 1797, ac mae'n sefyll ar ochr y dwyrain yn sgwâr Linton ar bwys Stryd New Inn Hall. Cafodd ei adeiladu yn wreddiol fel swyddfeydd ar gyfer Cwmni Camlesi Rhydychen o'r enw Tŷ Wyaston.Prynwyd yn 1878 gan Ganon Henry Linton a wnaeth ei drawnewid i fod yn rheithordy ar gyfer Egwlys Sant-Pedr-le-Bailey. Heddiw, adnabyddir fel Tŷ Linton, ac mae'n gwasanaethu fel porthdy y porthor (mynediad y coleg) ac yn gartref i lyfrgell y coleg.

I'r de mae'r sgwâr yn sefyll ar bwys capel y coleg, Eglwys Satn-Pedr-le-Bailey. Adeiladwyd yn 1874 gyda chyfuniad craig o eglwys hŷn, y trydedd eglwys o'r enw ar y sale ers y 12fed ganrif. Mae cofebion i aelodau y teulu Chavasse yn y capel, gan gynnwys croes fedd gwreddiol Capten Noel Chavasse, a cherfwedd isel o'r Esgob Francis Chavasse yn gweddio a'r ffenestr goffa Chavasse.

Mae'r sgwâr hefyd yn cynnwys adeilad Latner.

Sgwâr Hannington[golygu | golygu cod]

Sgwâr Chavasse[golygu | golygu cod]

Sgwâr Mulberry[golygu | golygu cod]

Tŷ'r Gamlas[golygu | golygu cod]

Mae Tŷ'r Gmalas yn gartref i Feistr y coleg, ac yn dyddio o'r 19eg ganrif.

Rhandai[golygu | golygu cod]

Mae gan Sant Pedr lety tu allan i safle'r coleg, yn agos iawn i'r lleoliad. Mae Stryd Sant Tomos a Giât Sant Siôr yn gartref i israddedigion, ac mae Stryd Paradwys yn gartref i nifer o israddedigion 4ydd flwyddyn ac ôlraddedigion.

Bywyd Myfyrwyr[golygu | golygu cod]

Mae'r Ystafell Gyffredin Iau yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn academiadd, o ddigwyddiadau ffurfiol er mwyn dathlu dyddiau fel Noson Burns (gyda barddoniaeth a haggis) i bartïon sy'n para tan oriau man y bore. Sant Pedr yw'r rhai o'r unig golegau i redeg ei gylchgrawn ei hunain, Misc, cylchgrawn y celfyddydau, sy'n cael ei argraffu bob tymor. Mae gan y coleg far sy'n cael ei wasanaethu gan y myfwyrwyr, ac sy'n gwerthu y coctel Cross Keys.[11] [12]

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Mae gan y coleg dimau chwaraeon sy'n cystadlu yn rhwyfo, criced, pêl-droed, hoci, rygbi, a pŵl. Mae'n rhannu maes chwarae gyda cholegau Caerwysg a Hertford sydd â maes criced a dau pafiliwn, dau maes chwarae pêl-droed a rygbi, cae hoci, cwrtiau tenis a cwrt sboncen.

Mae tîm rhwyfo Sant Pedr yn cystadlu'n aml. Mae'r tîm yn rhannu tŷ cwch gyda Coleg Somerville, Coleg y Brifysgol a Choleg Wolfson.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Pobl â perthynas â'r coleg[golygu | golygu cod]

Meistri[golygu | golygu cod]

  • Christopher Maude Chavasse (1929-1940)
  • Julian Thornton-Duesbery (1940-44 a 1955-1968)
  • Robert Wilmot Howard )1945-1955)
  • Alec Cairncross (1969-1978)
  • Gerald Aylmer (1979-2003)
  • John Barron (1991-2003)
  • Bernard Silverman (2003-2009)
  • Mark Damazer (2010-2019)
  • Judith Buchanan (2019-)

Cymrodrion[golygu | golygu cod]

  • Roger Allen (Cerddolegwr)
  • Peter Armitage
  • Mensun Bound
  • Robert Burchfield
  • Danny Dorling
  • John Emerton
  • Margaret Gibson (hanesydd)
  • Lawrence Goldman
  • John House
  • Irene Lenmos
  • Henrietta Leyser
  • Timothy Mason
  • Henry Mayr-Harting
  • Arthur Peacocke
  • Steven Rawlings
  • Brian D. Ripley
  • Susan J. Smith
  • Robert Walter Steel
  • Erik Swyngedouw
  • Robert Twycross

Cynfyfyrwyr nodweddidadol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Niferoedd myfyrwyr, Rhagfyr 2016: Prifysgol Rhydychen; adalwyd 25 Mai 2017.
  2. "College History | www.spc.ox.ac.uk". www.spc.ox.ac.uk. Retrieved 4 May 2018.
  3. "St Peter's College University of Oxford : Annual Report & Financial Statements : For the year ended 31 July 2019" (PDF). ox.ac.uk. p. 13. Retrieved 4 April 2020.
  4. "College History". St Peter's College, Oxford. Adalwyd 18 Gorffennaf 2021.
  5. "St Peter's Hall", yn A History of the County of Oxford, cyf.3, gol. H. E. Salter a Mary D. Lobel (1954). Adalwyd 18 Gorffennaf 2021
  6. Chavasse, Christopher (8 November 1930). "St Peter's Hall, Oxford". The Times: 8. Retrieved 29 August 2013.
  7. "College History". St Peter's College, Oxford. Retrieved 18 July 2021.
  8. "College History". St Peter's College, Oxford. Retrieved 18 July 2021.
  9. "College History". St Peter's College, Oxford. Retrieved 18 July 2021.
  10. "College History". St Peter's College, Oxford. Retrieved 18 July 2021.
  11. "Undergraduate Study". St. Peter’s College, Oxford.
  12. Marin, Matei (31 Ionawr 2017). "The St. Peter's College bar is the best in Oxford". The Tab.
Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.