Coeden deulu
Siart sy'n arddangos perthnasau teulu ar ffurf strwythr coeden yw coeden deulu.
Cynnwys |
Ffurfiau [golygu]
Gall yr wybodaeth hel achau ei arddangos ar sawl ffurf, megis siart achau neu siart hynafiaid. Caiff coed teulu eu cyflwyno gan amlaf gyda'r genhedlaeth hynaf ar y top, a'r genhedlaeth mwyaf newydd ar y gwaelod. Bydd coeden ar ffurf siart hynafiaid yn debycach i goeden yn ei siap i gymharu â ffurfiau eraill. Mewn rhai siartiau, yn enwedig rhai sydd wedi cael eu cynhyrchu gan feddalwedd hel achau, bydd y siart yn cael ei chyflwyno ar ei hochr, gyda'r unigolyn ar y chwith a'r hynafiaid i'r ddebeing ohonynt. Bydd siart disgynyddion yn dadansoddi holl ddisgynyddion unigolyn, a bydd yn dangos yr unigolyn ar dop y siart, neu weithiau ar y chwith.
Gall coed teulu ddilyn nifer o themâu, megis dangos holl ddisgynyddion unigolyn, neu'r holl hynafiaid a wyddir amdanynt. Neu, gall ddangos holl aelodau teulu sydd â'r un cyfenw (h.y. y linach gwrywaidd fel rheol). Dull arall fyddai creu siart yn dangos perthynas deilydd swydd arbennig, megis Coeden deulu Brenhinoedd yr Almaen, sy'n dibynnu ar briodas llinachyddol i lynu'r teulu a'r swydd.
Hanes [golygu]
Mae'n debyg yr ymddangosodd y ddelwedd o goeden ar gyfer arddangos perthnasau teulu gyda chelfyddyd canoloesol Coeden Jesse, a ddefnyddwyd i ddadansoddi Achyddiaeth Christ yn nhermau proffwydoliaeth Isaiah (Isaiah 11:1). Mae'n debyg maei'r goeden gyntaf i ddangos teulu cyfan yn hyrach nag ond y linach wrywaidd oedd Genealogia deorum gentilium gan Boccaccio, sef llinach o dduwiau sy'n dyddio o 1360.
Siart fan [golygu]
Un dechneg o arddangos coeden deulu yw siart fan, sef siart siap hanner cylch gyda cylchoedd cydganol. Bydd y prif berson yn ymddangos yn y cylch yng nghanol y siart, gyda'r rhieni yn yr ailch gyclh sydd wedi ei rannu'n ddau. Caiff y trydydd cylch ei rannu'n bedwar ar gyfer y neiniau a'r teidiau, ayb. Mae'r siart fel rheol yn arddangos y cyn-deidiau mamol a'r tadol.[1]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Fan Genealogy Chart, Melick Genealogists