Cocteau Twins

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cocteau Twins

Ffurfiwyd y band hwn o Grangemouth yn yr Alban ym 1980 gan Robin Guthrie (gitâr) a Will Heggie (bas) oedd Cocteau Twins . Daethant o hyd at Elizabeth Fraser (llais) am y tro cyntaf mewn disgo lleol o'r enw Nash. Roedd dylanwadau'r grŵp pryd hynny'n cynnwys The Birthday Party, Sex Pistols a Siouxsie & the Banshees. Daeth enw'r band ei hun, Cocteau Twins, o gân gynnar (heb ei chyhoeddi) gan Simple Minds. Cyhoeddwyd eu recordiad cyntaf, Garlands, gan 4AD ym 1982, ac roedd yn llwyddiant ebrwydd, fel roedd hefyd eu EP dilynol Lullabies.

Cafodd aelodau'r band i gyd eu canmol am eu perfformiadau, ond Elizabeth Fraser a denodd y rhan fwyaf o'r sylw. Hyd yn oed ar eu recordiadau cynnar, roedd ei llais yn hynod o unigryw ac heb ei gynsail. Weithiau bron yn amhosib i'w ddehongli, ymddangosai canu Fraser i droi i mewn i "glossolalia" a "mouth music". Ysgrifennai Ned Raggett fod "part of her appeal is how she can make hard-to-interpret lyrics so emotionally gripping."

Ymadawodd Will Heggie â'r band ar ôl y daith o gigiau a ddilynodd cyhoeddiad ail EP y grŵp, Peppermint Pig, ym 1983. Roedd swn y band ar eu tri recordiad cyntaf yn hollol ddibynnol ar fas rhythmig Heggie, gitâr minimalistig Guthrie, a llais anhygoel Fraser; bu rhaid i LP nesa Cocteau Twins, Head over Heals, ddibynnu ar ddim ond y ddau olaf. Arweiniodd hyn at dwf swn nodweddiadol Cocteau Twins: gitarau wedi eu haffeithio'n drwm mewn cyfuniad â llais annaearol Fraser. Fel ei ragflaenydd gwahanol iawn, cafodd Head over Heals ei ganmol gan y cyhoedd a'r wasg.

Ym 1983 cyfranogodd y band ym mhrosiect 4AD o'r enw This Mortal Coil, lle perfformiodd Guthrie a Fraser fersiwn trawiadol o gân Tim Buckley, Song to the Siren. Yn ystod y recordio daethant i nabod Simon Raymonde (cyn-aelod Drowning Craze), ac ymunodd Simon â'r grŵp yn hwyrach yn y flwyddyn i ganu'r bas. Gyda Simon Raymonde, cyhoeddodd y band gyfres o recordiau wedi eu cymeradwyo gan feirniaid lle fforiodd y grŵp eu harddull newydd. Ymhlith y rhain mae The Spangle Maker (1984), Treasure (1984), Aikea-Guinea (1985), Tiny Dynamine ac Echoes in a Shallow Bay (1985) a Loves Easy Tears (1986). Doedd Raymonde -a oedd yn cydweithio ar ail LP This Mortal Coil- ddim yn gallu cyfranogi ym mhedwerydd LP Cocteau Twins, sef Victorialand (1986), record sydd yn bennaf yn acwstig. Daeth yn ôl i'r grŵp ar gyfer The Moon and The Melodies (1986), record na chafodd ei gyhoeddi dan yr enw Cocteau Twins, lle cydweithiodd y band gyda Harold Budd.

Ym 1985 arwyddodd 4AD gytundeb gyda Relativity Records i ddosbarthu cerddoriaeth Cocteau Twins yn yr Unol Daleithiau a lleoedd eraill. I ddathlu hyn cyhoeddwyd y casgliad The Pink Opaque er mwyn cyflwyno ôl-gatalog y band i gynulleidfa ehangach. Ym 1988, tra'n parhau gyda 4AD yn rhyngwladol, arwyddodd y grŵp gytundeb gyda Capitol Records i ddosbarthu eu cerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau, a chyhoeddodd eu pumed LP, Blue Bell Knoll ym Mis Hydref o'r flwyddyn honno.

Cyhoeddwyd eu chweched LP Heaven or Las Vegas ym 1990. Y mwyaf llwyddiannus o'u recordiau, aeth yr albwm yn syth i gopa'r siartiau. Ond serch llwyddiant y record a'r gigiau, ymadawodd y band â 4AD ar ôl Heaven or Las Vegas. Roedd ganddynt groestyniad gyda sylfaenydd 4AD, Ivo Watts-Russel, ac roedd y band yn agos i gael ei rwygo oherwydd gorddibyniaeth Guthrie ar gyffuriau ac alcohol.

Tra'n gigio Heaven or Las Vegas, arwyddodd y grŵp gytundeb newydd gyda Fontana. Cyhoeddodd eu seithfed LP Four-Calendar Café ym 1993. Roedd y record yn ymadawiad â synau cymhleth, wedi eu haenu a'u prosesu'n drwm fel ar Blue Bell Knoll a Heaven or Las Vegas, gyda threfniannau minimalistig crisialog. Arweiniodd hyn, ochr yn ochr â thelynegion clywedol dealladwy Fraser, i adolygiadau cymysg: roedd rhai'n cyhuddo'r band o werthu allan a chynhyrchu record cyrraeddadwy, tra roedd eraill yn canmol yr albwm fel olynydd teilwng i Heaven or Las Vegas.

Yn ôl y band roedd Four-Calendar Café yn ymateb i'r helbul a amlyncodd y band ar ôl Heaven or Las Vegas, gyda Guthrie yn mynd i mewn i rehab a Fraser ei hun yn cael therapi (roedd y ddau wedi bod mewn perthynas dymor hir gyda'i gilydd, ac erbyn hyn wedi cael merch ifanc, Lucy-Belle, ganwyd ym 1989).

Cyhoeddwyd dau EP newydd ym 1995: Twinlights ac Otherness. Roedd Twinlights wedi ei gyfansoddi o bedair cân acwstig tyner, wedi eu recordio gyda dim ond piano, gitâr acwstig a llais; roedd Otherness ar y llaw arall yn cynnwys pedwar ailgymysgedd electronig o ganeuon Cocteau Twins. Roedd rhai o'r caneuon ar y ddau EP yn fersiynau o ganeuon ar wythfed albwm y band, Milk and Kisses (1996). Roedd rhai'n galw'r record yn "return to form", gyda gitarau a llais wedi eu haenu'n drwm, ond cafodd adolygiadau cymysg.

Ym 1997, tra'n recordio LP newydd, daeth Cocteau Twins i ben. Roedd yna anghytundebau anghymodlon, yn bennaf i'w wneud â diwedd perthynas Guthrie a Fraser.

Ffurfiodd Guthrie a Raymonde label recordio o'r enw Bella Union. Cyhoeddodd Raymonde yr albwm solo Blame Someone Else. Cyhoeddodd Guthrie ei solo cyntaf Imperial ac mae'n dal i greu cerddoriaeth gyda'i fand Violet Indiana.

Roedd Elizabeth Fraser eisoes wedi canu pob un o'r saith trac ar yr EP Lifeforms (1994) gan Future Sound of London. Canodd dair cân ar y record Mezzanine gan Massive Attack ym 1998 ac mae ei llais swyngyfareddol wedi cyfranogi mewn llwyth o recordiau eraill. Canodd hefyd ar gerddoriaeth y ffilmiau The Fellowship of the Ring a The Two Towers. Bu iddi hefyd ganu mewn deuawd gyda Jeff Buckley o'r enw All Flowers In Time cyn iddo foddi ym 1997.