Cneifio defaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shearing the Rams, paentiad gan yr artist o Awstralia Tom Roberts, 1890
Cneifio gyda pheiriannau cneifio trydan, yn Llannefydd, Dyffryn Clwyd.

Torri'r cnu sydd wedi tyfu'n dew dros y gaeaf ar ddefaid er mwyn cael gwlân yw cneifio defaid (cyfeirir ato gan amlaf fel cneifio ond mae gan y gair hwnnw ystyr ehangach hefyd).

Yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain, ac Iwerddon, o leiaf mewn rhai mannau roedd yna arferiad i olchi'r defaid rai wythnosau cyn ei cneifio drwy eu cael i groesi afon neu nant fel bod y gwlân yn lannach. Cneifir defaid yn y gwanwyn, a hynny er mwyn cael gwlân ond hefyd am nad oes angen y cnu tew ar y defaid yn yr haf ac am y byddent felly yn tyfu cnu newydd dros yr haf at y gaeaf nesaf. Gwaith cydweithredol fu cneifio yng Nghymru, a gan fod y rhan fwyaf o'r ffermydd mynydd yn rhai bychain, byddai ffermwyr yn helpu ei gilydd trwy rannu'r dasg o gneifio.

Yn Awstralia a Seland Newydd mae cneifio defaid yn ddiwydiant mawr. Cneifir hyd at 4,000 o ddefaid mewn diwrnod mewn rhai canolfannau ac am fod amser yn brin, gall cneifiwr medrus a chyflym ennill cyflog da iawn.

Cynhelir cystadlaethau cneifio defaid yn yr Antipodes gyda gwobrau mawr. Ceir cystadleuaeth flynyddol yn Sioe Frenhinol Cymru yn ogystal.

Dolenni allanol[golygu]