Clwb Rhwyfo Trefynwy
Oddi ar Wicipedia
Mae Clwb Rhwyfo Trefynwy wedi'i leoli ar lannau'r Afon Gwy yn Nhrefynwy, tref hanesyddol yn Sir Fynwy. Mae'r Clwb yn aelod o Gymdeithas Rhwyfo Amatur Cymru ac yn cynnal sawl ras bwysig y flwyddyn.
Hanes [golygu]
Credir i'r clwb gael ei sefydlu yn 1928 pan oedd yn rhentu adeilad (warws) fel cysgod i'r cychod rhwyfo, a hynny tan canol y 60au pan godwyd yr adeilad presenol.
Ceir campfa ac ystafelloedd newid yno a godwyd yn 1995 ac a agorwyd gan Sir Steve Redgrave.