C.P.D. Dinas Abertawe
![]() |
|||
| Enw llawn | Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe (Swansea City Association Football Club) |
||
|---|---|---|---|
| Llysenwaau | Y Jacks, Y Swans | ||
| Sefydlwyd | 1912 (fel Tref Abertawe) | ||
| Maes | Stadiwm Liberty, Abertawe (sy'n dal: 20,750) |
||
| Cadeirydd | |||
| Rheolwr | |||
| Cynghrair | Uwchgynghrair Lloegr | ||
| 2011-2012 | 11eg (Uwchgynghrair Lloegr) | ||
| Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
|||
Tîm pêl-droed Cymreig yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr yw Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe (Saesneg: Swansea City Association Football Club)
Mae'r clwb wedi chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Liberty ers symud o Gae'r Fets yn 2005.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Ffurfiwyd CPD Tref Abertawe ym 1912. Ymunodd y clwb â'r Gynghrair Deheuol, lle arhosasant tan iddynt ennill dyrchafiad i drydedd adran y Gynghrair yn 1920. Ym 1925 enillwyd y rhan Deheuol o'r drydedd adran gan yr Elyrch, a felly enillasant ddyrchafiad i'r ail adran - lle arhoson nhw tan 1947. Yn 1949 enillwyd yr un adran am yr eilwaith, ac fe chwaraewyd pêl-droed ail adran yn Abertwae tan 1964.
Disgynodd y clwb i'r bedwaredd adran am y tro cyntaf yn 1967, ac er bod Roy Bentley wedi codi'r tim yn ol i'r drydedd adran yn 1970, roedden nhw 'nol yn y bedwaredd yn 1973, a gorfodwyd iddynt wneud cais i'r Gynghrair i allu aros ynddi.
Fe aeth Abertawe drwy gyfnod euraidd o dan reolaeth Harry Griffiths ac yna John Toshack yn y saithdegau, wrth iddyn nhw godi o'r bedwaredd adran i'r cyntaf mewn pedwar tymor. Ond erbyn 1986 roedd y clwb yn ôl yn y bedwaredd adran unwaith eto.
Fe ddaeth dyrchafiad eto yn 1988, 2000 a 2005, cyn i Roberto Martinez arwain y clwb i'r Bencampwriaeth yn 2008.
Yr Uwchgynghrair [golygu]
| Safleoedd y chwaraewyr ar gychwyn ffeinal y Football League Championship play-off; 2011. |
Yn 2010-11, dyrchafwyd y clwb i Uwchgynghrair Lloegr ar ôl iddynt faeddu Reading o 4 gôl i 2 yn y gemau ail-gyfle. Dyma oedd y clwb Cymreig cyntaf i gyrraedd yr Uwchgynghrair.[1]
Ar gychwyn 2011-12 Abertawe oedd y tîm cyntaf o Gymru i chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ers ei sefydlu ym 1992. Mae'r Elyrch wedi trechu Arsenal, Lerpwl a Manchester City, sef prif dimau'r Uwchgynghrair ers degawdau. Gorffennodd yr Elyrch y tymor 11eg yn yr Uwchgynghrair, sef y safle gorau erioed i unrhyw dîm o Gymru, ond gadawodd Brendan Rodgers i reoli Lerpwl. Cafodd ei ddisodli gan Michael Laudrup ar gychwyn 2012-13.
Yn eu gêm gyntaf yn eu hail dymor (2012-13) yn yr Uwchgynghrair fe sgorion nhw 5 gôl wrth drechu Queens Park Rangers 5-0 odddi cartref.[2] Gwelwyd Abertawe ar dop yr Uwch Gynghrair - y tro cyntaf ers mis Hydref 1981i'r tîm fod ar gopa'r haen uchaf - gan guro Stoke City 2-1 i ffwrdd .
Ar 15 Hydref 2012 cyhoeddodd bwrdd y cyfarwyddwyr fod y clwb wedi gwneud elw o £14.6 miliwn ar ôl eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair, ac y bydd yr estyniad i Stadiwm Liberty yn gweld golau dydd. Ar 1 Rhagfyr cafodd Abertawe fuddugoliaeth mawr oddi cartref, drwy guro 2-0 yn erbyn Arsenal, gyda Michu yn sgorio ddwywaith yn ystod munudau olaf y gêm. Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Abertawe yn erbyn Arsenal mewn tri degawd. Ar 23 Ionawr, curodd Abertawe o 2-0 ar gyfanswm goliau yn erbyn Chelsea yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cynghrair Lloegr.
Gwobrau [golygu]
Cynghrair Lloegr
- Y Bencampwriaeth - Safle Uchaf - 6ed 1982-1983
- Yr Adran Gyntaf - Pencampwyr 2007-2008
- Yr Ail Adran - Pencampwyr 1924-1925, 1948-1949
- Y Drydydd Adran - Pencampwyr 1999-2000
Cwpan Lloger
- Rownd gynderfynol 1926, 1964
- Ennillwyr (10) 1913, 1932, 1950, 1961, 1966, 1981, 1982, 1983, 1989, 1991
- Ail Safle (8) 1915, 1926, 1938, 1940, 1949, 1956, 1957, 1969
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Sinclair takes Swansea into top flight Eurosport.com. 30 Mai 2011. Adalwyd ar 30 Mai 2011
- ↑ "QPR 0 Swansea 5: Swans rip Rangers to shreds with Michu and Dyer at the fore". Daily Mail. 18 August 2012. http://www.dailymail.co.uk/sport/football/article-2190177/QPR-0-Swansea-5.html.
| Uwchgynghrair Barclays 2012 - 2013 | |
|---|---|
|
Dinas Abertawe | Arsenal | Aston Villa | Chelsea | Everton | Fulham | Liverpool | Manchester City | Manchester United | Newcastle United | Norwich City | Queens Park Rangers | Reading | Southampton | Stoke City | Sunderland | Tottenham Hotspur | West Bromwich Albion | West Ham United | Wigan Athletic | |
