Clwb Ifor Bach

Oddi ar Wicipedia
Clwb Ifor Bach
Enghraifft o'r canlynolclwb nos, canolfan gerddoriaeth, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1983 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://clwb.net/ Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Ifor Bach (gwahaniaethu).

Clwb nos poblogaidd yn ninas Caerdydd yw Clwb Ifor Bach. Sefydlwyd y clwb gan aelodau'r gymuned Gymraeg yn y ddinas, gan gynnwys Owen John Thomas. Sefydlwyd Cymdeithas Clwb Cymraeg Caerdydd ar ddiwedd y 1970au â'r nod o sefydlu clwb Cymraeg. Agorodd Clwb Ifor Bach ei ddrysau yn 1983. Fe'i enwir er cof am Ifor Bach a'i herwgipiad enwog yng Nghastell Caerdydd yn y 12g, ond adnabyddir y lle yn aml fel Clwb neu yn Saesneg fel The Welsh Club.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Lleolir y clwb yng nghanol Caerdydd, hanner ffordd i lawr Stryd Womanby (Heol y Fuwch Goch yn Gymraeg), sy'n rhedeg o'r castell yn gyfochrog â Heol Eglwys Fair.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y clwb fel clwb aelodau[2], a dyna ei gyfansoddiad o hyd ac fe gyfyngir yr aelodaeth i siaradwyr Cymraeg a'r rheini a sy'n dysgu Cymraeg. Er mai clwb aelodau yw e, mae eraill yn cael defnyddio'r adeilad hefyd ran amlaf, er adegau prysur, er enghraifft yn ystod gemau rygbi rhyngwladol, gellir cyfyngu mynediad i aelodau'n unig o hyd.

Roedd Clwb Ifor Bach yn esblygiad ar sefydliad Gymraeg arall, hŷn, yng Nghaerdydd, sef Tŷ'r Cymry sydd wedi ei lleoli yn Gordon Rd yn y ddinas. Sefydlwyd Tŷ'r Cymry yn 1936 a bu'n ganolfan bwysig i'r Gymraeg gan fod yn leoliad ysgol Sadwrn Gymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn fan cyfarfod poblogaidd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn ystod canol yr 20g.

Yr Adeilad[golygu | golygu cod]

Mae'r adeilad tri llawr; gyda bar, llwyfan a llawr dawnsio ar bob lefel, yn amrywio o ran maint, y llawr uchaf yw'r mwyaf. Cafodd y clwb ei ailwampio yn ystod yr 1990au.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Madalitso Band yng Nghlwb Ifor Bach, mis Awst 2023

Mae'r clwb wedi bod yn rhan parhaol o sîn cerddoriaeth Caerdydd. Mae cerddoriaeth fyw ar lwyfannau'r clwb yn aml. Mae hefyd nosweithiau thema wythnosol rheolaidd, gydag un llawr wedi ei neilltuo ar gyfer math arbennig o gerddoriaeth ar gyfer y noson. Ceir amrediad eang o gerddoriaeth megis reggae, gwerin, hip-hop, pop, roc, cerddoriaeth Gymraeg ac yn y blaen. Yn ogystal â thâl aelodaeth, mae hefyd tâl mynediad ychwanegol ar y drws ar adegau, ar gyfer lloriau neu fandiau arbennig.

Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Rhestrir digwyddiadau ar wefan y clwb ac ar yr hysbysfwrdd yn y cyntedd. Yn ogystal â digwyddiadau cerddorol, mae cyfarfodydd cymdeithasol megis clybiau dysgwyr, nosweithiau ymddiddan a gwylio Rygbi ar y sgrin fawr. Defnyddir y clwb hefyd gan gwmniau teledu ar gyfer sgrinio rhaglenni prawf.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Map ar wefan y clwb Archifwyd 2008-05-14 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23/05/2012]
  2. [1],Clwb Ifor yn 25 oed. Adalwyd 31/07/2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]