Clodock

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref gwledig bychan yn Swydd Henffordd, Lloegr, yw Clodock (Seisnigiad o'r enw Cymraeg Clydog). Bu Clodock yn adnabyddus wrth yr enw Cymraeg Merthyr Clydog (gweler isod), enw sy'n dyddio i'r cyfnod pan fu'r rhan hon o Swydd Henffordd yn rhan o gwmwd Cymreig Ewias.

Gorwedd y pentref yn y bryniau ar lan Afon Mynwy yn ne-orllewin y sir yn agos i'r ffin â Chymru, tua 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni. Fe'i lleolir ar ffordd wledig sy'n dringo o Lanfihangel Crucornau yn Sir Fynwy i bentref Longtown, Swydd Henffordd.

Mae un o siarteri Llyfr Llandaf y gellir ei ddyddio o'r 8fed ganrif, yn enwi un Clydog, "brenin yn Ewias", ac yn dweud iddo gael ei lofruddio tra'n hela. Roedd merch fonheddig wedi syrthio mewn cariad â Chlydog a chafodd ei ladd gan ei chariad arall, gwrthodedig, wrth iddo hela. Cludwyd ei gorff ar gert i lan Afon Mynwy ond gwrthododd yr ychen fynd dros y rhyd a thorodd echel y cert. Claddwyd Clydog yno. Codwyd creirfa iddo ar y safle ym Merthyr Clydog (safle pentref Clodock heddiw). Tyfodd Merthyr Clydog i fod yn brif ganolfan eglwysig Ewias yn yr Oesoedd Canol.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).

Gweler hefyd[golygu]