Cliradain Gymreig

Oddi ar Wicipedia
Cliradain Gymreig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Sesiidae
Genws: Synanthedon
Rhywogaeth: S. scoliaeformis
Enw deuenwol
Synanthedon scoliaeformis
(Borkhausen, 1789)[1]
Cyfystyron
  • Sphinx scoliaeformis Borkhausen, 1789
  • Sesia scoliiformis Staudinger, 1856
  • Sesia thynniformis Laspeyres, 1801
  • Sesia emphytiformis Herrich-Schäffer, 1846 (nec Walker, 1856)
  • Sesia deserta Staudinger, 1887
  • Synanthedon danieli Capuse, 1973
  • Synanthedon scoliaeformis f. aurea Pühringer, 1998
  • Synanthedon scoliaeformis f. aura Pühringer, 1998

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw cliradain Gymreig, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy cliradenydd Cymreig; yr enw Saesneg yw Welsh Clearwing, a'r enw gwyddonol yw Synanthedon scoliaeformis.[2][3] Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gliradain Gymreig yn lindysyn sydd yn bwyta rhisgl bedw, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Fe'i ceir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia. Mae'n rhywogaeth brin ym Mhrydain Fawr lle cafodd ei darganfod am y tro cyntaf ym 1854 ger Llangollen.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Checklist of the Sesiidae of the World
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. Waring, Paul & Martin Townsend (2004) Field Guide to the Moths of Great Britain and Ireland, British Wildlife Publishing, Hampshire.