Clawddnewydd

Oddi ar Wicipedia
Clawddnewydd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ083524 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yng nghymuned Derwen, Sir Ddinbych, Cymru, yw Clawddnewydd[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ), weithiau Clawdd-newydd.[2] Saif yn Nyffryn Clwyd, tua dwy filltir i'r gorllewin o dref hynafol Rhuthun yn ne Sir Ddinbych ar derfyn Coedwig Clocaenog. Mae'n rhan o gymuned Derwen. Mae'r pentref yn edrych tuag at Fynyddoedd y Berwyn a Bryniau Clwyd. Ceir yma hefyd, fel nifer o bentrefi yng Nghymru, dafarn (Glan Llyn) a chapel.

Sefydlwyd Siop-Y-Fro yng Nghanolfan Cae Cymro, yn y pentref yn 2002, sy'n siop cydweithredol.[3] Mae plant cynradd y pentref yn mynychu Ysgol Clocaenog a leolir ym mhentref Clocaenog, tua hanner milltir i'r gogledd o Glawddnewydd; mae'r plant hŷn yn mynychu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 27 Gorffennaf 2022
  3. "Gwefan Siopau Cymunedol Plunkett; adalwyd 31 Awst 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-28. Cyrchwyd 2012-08-31.