Claudius II

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Claudius Aurelius Marcus Gothicus neu Claudius II (214-270) oedd ymerawdwr Rhufain o 268 hyd 270. Er iddo deyrnasu am lai na dwy flynedd, bu'n llwyddiannus ac yn boblogaidd iawn.

Mae'n aneglur ymhle y ganed Claudius, efallai Sirmium (yn Pannonia Inferior) neu Dardania (yn Moesia Superior). Yn 268 yr oedd yr ymerodraeth mewn perygl o sawl tu, yn enwedig yn Iliricum a Pannonia lle roedd y Gothiaid yn ymosod. Enillodd Claudius un o fuddugliaethau pwysicaf y fyddin Rufeinig. Ym mrwydr Naissus gorchfygodd Claudius a'i lengoedd fyddin fawr y Gothiaid, gyda chymorth cadfridog arall, Aurelian, a ddaeth yn ymerawdwr ei hun yn ddiweddarach. Taflwyd y Gothiaid yn ôl tros Afon Donaw a bu tros ganrif cyn iddynt fod yn berygl i'r ymerodraeth eto. Ychydig cyn hynny yr oedd wedi gorchfygu'r Alemanni oedd wedi croesi'r Alpau i ymosod ar yr ymerodraeth.

Daeth yn ymerawdwr ym mis Medi yr un flwyddyn. Yr oedd sibrydion ei fod a rhan yn y cynllwyn a arweiniodd at lofruddiaeth yr ymerawdwr blaenorol, Gallienus, ond nid oes prawf o hyn. Beth bynnag am hynny, gofynnodd i'r Senedd roi pardwn i deuluoedd dilynwyr Gallienus. Bu'n ymgyrchu yn erbyn "Ymerodraeth y Galiaid", oedd ers 15 mlynedd wedi meddiannu Gâl, rhan o Brydain a Hispania. Enillodd nifer o fuddugoliaethau ac adenillodd Hispania i'r ymerodraeth, gan osod y seiliau ar gyfer buddugoliaeth derfynol dros Ymerodraeth y Galiaid dan Aurelian.

Tua diwedd 269 yr oedd Claudius yn paratoi i ymgyrchu yn erbyn y Vandaliaid oedd yn ymosod ar Pannonia, ond bu farw o glefyd yn Ionawr 270. Cyn marw, enwodd Aurelian fel ei olynydd, ond llwyddodd ei frawd Quintillus i gipio'r orsedd yn fuan ar ôl marw Claudius. Cyhoeddodd y Senedd ef yn dduw fel Divus Claudius Gothicus.

O'i flaen :
Gallienus
Ymerodron Rhufain
Claudius II
Olynydd :
Quintillus