Claude Perrault

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Claude Perrault

Pensaer, llenor a meddyg o Ffrainc oedd Claude Perrault (25 Medi 1613 - 9 Hydref 1688). Yn enedigol o ddinas Paris, roedd yn frawd i Charles Perrault, awdur y casgliad chwedlau gwerin enwog Contes de ma mère l’Oye.

Cyfieithodd waith Vitruvius ar bensaernïaeth o'r Lladin i'r Ffrangeg a chynlluniodd golonâd y Louvre. Bu hefyd yn un o'r rhai, fel ei frawd iau, a gymerodd ran yn y ddadl boeth rhwng pleidwyr y Moderniaid a phleidwyr yr Hynafwyr (Brwydr y Llyfrau neu Brwydr y Moderniaid a'r Hynafwyr) i bennu cwrs llenyddiaeth a chelf Ffrainc yn yr 17eg ganrif.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill