Claire Evans

Oddi ar Wicipedia
Claire Evans
Ganwyd11 Ionawr 1983 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmodel, ymgeisydd mewn cystadleuaeth modelu Edit this on Wikidata

Model Gymreig ydy Claire Louise Evans (ganwyd 11 Ionawr 1983) ac enillydd Miss Wales 2005.[1]

Hi oedd merch hynaf Geraint a Michelle. Fe'i ganed yn Aberystwyth, Cymru a derbyniodd ei haddysg yn ysgol gynradd Catholic Sant Padarn ac yna yn Ysgol Penglais.

Roedd hi'n athletwraig genedlaethol, ac enillodd mewn rasys 1500 m, 3000 m, 5000 m, 10,000 m a thraws gwlad, gan gynrychioli Cymru yn rhyngwladol. Roedd hi hefyd yn nofwraig da ac mae ganddi gymwysterau mewn therapi chwaraeon. Mae ei brawd Daniel hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn chwaraeon amrywiol.

Cafodd ei choroni yn Miss Cymru yn 2005 gan gynrychioli Cymru wedyn yn Miss World 2005 yn Tsieina. Hi oedd y Miss Cymru cyntaf i ddod o Geredigion.[2] Daeth yn 6ed yn y gystadleuaeth Miss Great Britain. Mae wedi ymddangos mewn sawl cylchgrawn a fideo gerddorol yn ogystal â rhaglenni teledu Sky (Living TV) a chylchgrawn i ferched: Citta Bella yn Malaysia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Miss Wales 2005 – Claire Evans". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-18. Cyrchwyd 24 Mehefin 2010.
  2. Pete Griffin (25 Tachwedd 2005). "Heineken Cup Final Ambassador Travels To China". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-28. Cyrchwyd 24 June 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)