Citroën 2CV

Oddi ar Wicipedia
Sawl 2CV yn Fforest Llandegla

Mae’r Citroën 2CV yn gar rhad a syml, cynhyrchwyd gan gwmni Citroën rhwng 1948 a 1990 gyda pheiriant wedi oeri gan awyr. Bwriad y cwmni oedd eu gwerthu i ffermwyr; roedd defnydd o geffyl a throl dal yn gyffredin yng nghefn gwlad Ffrainc.

Daeth y syniad gwreiddiol o Pierre-Jules Boulanger, dirprwy-bennaeth y cwmni. Gofynnodd am gar addas i ffyrdd y cefn gwlad, i gludo 4 o bobl a 50 cilogram o gynnyrch, yn defnyddio dim mwy na 5 litr o betrol i fynd 100 cilomedr. Bwriadwyd gwerthu’r car ym 1939, ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd roedd rhaid aros tan 1948.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]