Cipio aelodau o'r Llynges Frenhinol gan Iran, 2007

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tri o'r morwyr Prydeinig ar Rwydwaith Newyddion Al-Alam

Dechreuodd yr anghydfod am gipio aelodau o'r Llynges Frenhinol gan Iran, 2007 ar 23 Mawrth 2007 pan gafodd bymtheg o bersonél y Llynges Frenhinol, o HMS Cornwall, eu hamgylchynu a'u cipio gan Lynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol ger arfordir Irac-Iran. Bu'r criw o wyth morwr a saith môr-filwr o ddau gwch gwynt anhyblyg yn chwilio llong fasnachol pan cafon nhw eu caethiwo am 10:30 amser lleol Irac (07:30 GMT, 11:00 amser lleol Iran) gan chwe chwch Llynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol. Wedyn cafon nhw eu cymryd i ganolfan Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol yn Nhehran i gael eu holi.[1][2]

Yn dilyn hyn bu ymdrechion diplomyddol dwys i sicrhau rhyddhad y personél. Ar 28 Mawrth dangosodd sianeli teledu ar draws y byd deunydd fideo a ddarparwyd gan yr awdurdodau Iranaidd yn dangos rhai o'r 15 morwr Prydeinig, gan gynnwys datganiad gan Faye Turney a llythyr a honnir ei ysgrifennwyd ganddi, yn ymddiheurio am dresmasiad y Deyrnas Unedig yn nyfroedd Iran.[3] Ar 30 Mawrth dangoswyd tri aelod o'r criw ar deledu yn Iran a ryddhawyd dau lythyr arall a honnir ei ysgrifennwyd gan Turney, eto yn cyfaddef roedd y cwch Prydeinig yn nyfroedd Iranaidd.[4]

Dywed llywodraeth Prydain bod y criw yn cynnal arolygiad cydymffurfiad ar long fasnach, dan rwymedigaeth Penderfyniad 1723 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Cododd y masnachwr drwgdybiaeth wrth hwylio ar hyd ddyfrffordd Shatt al-Arab. Roedd HMS Cornwall yn rhan o'r cyfraniad Prydeinig i luoedd y glymblaid a weithredir ymgyrchoedd diogelwch arforol yn dilyn Rhyfel Irac.[5]

Ar 4 Ebrill, cyhoeddodd Arlywydd Iran Mahmoud Ahmadinejad, er yn ailadrodd yr haeriad y cafodd dyfroedd Iran eu goresgyn, y byddai'r morwyr yn cael eu rhyddhau fel "rhodd" i Brydain.[6] Pan daethant yn ôl i'r DU dywedodd y criw cawsant eu rhoi o dan "bwysau seicolegol cyson" gan awdurdodau Iran.[7]

Datganodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ar 7 Ebrill dechreuad "ymchwiliad manwl" i'r amgylchiadau ag arweiniodd at gipiad y criw o 15 gan Iran.[8] Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan yr Is-gadfridog Syr Robert Fulton, Llywodraethwr Gibraltar (a chyn-Comander Cyffredinol y Môr-filwyr Brenhinol).[9]

Y personél Prydeinig[golygu]

Y canlynol oedd y 15 o aelodau'r Llynges a Môr-filwyr Brenhinol a gipiwyd ar 23 Mawrth 2007:[4][10][11][12][13][14]

  • Is-gapten Felix Carman RN
  • Capten Christopher Air RM
  • Prif Is-swyddog Gavin Cavendish
  • Sarsiant Actio Dean Harris
  • Pen-llongwr Christopher Coe
  • Pen-llongwr Dros Dro Faye Turney
  • Is-gorporal Mark Banks
  • Llongwr Abl Arthur Batchelor
  • Llongwr Abl Andrew Henderson
  • Llongwr Abl Simon Massey
  • Llongwr Abl Nathan Summers
  • Môr-filwr Paul Barton
  • Môr-filwr Daniel Masterton
  • Môr-filwr Adam Sperry
  • Môr-filwr Joe Tindell

Cyfeiriadau[golygu]