Cic dros ben

Oddi ar Wicipedia
Llun o ddyn sydd ar fin cicio pêl
Diego Costa, ymosodwr Atlético Madrid, yn gwneud cic dros ben mewn gêm bêl-droed yn erbyn Almería

Cic dros ben yw symudiad corfforol mewn pêl droed pan mae'r chwaraewr yn taflu ei gorff yn yr awyr tra'n cicio'r bêl tuag yn ôl, i geisio sgorio gôl. Mae'r symudiad acrobatig hwn yn gymhleth ac yn anghyffredin mewn gemau pêl-droed cystadleuol ac yn cael ei ddathlu mewn newyddiaduriaeth oherwydd hynny, yn enwedig pan fo'r chwaraewr yn sgorio.

Cafodd y gic dros ben ei dyfeisio yn Ne America, o bosib mor gynnar â'r 19g, yn ystod cyfnod o ddatblygiad mewn hanes pêl-droed, a cheir peth anghytuno o ran ble yn union y gwnaed y symudiad am y tro cyntaf. Mae'n fwy na thebyg i hyn ddigwydd ym Mrasil, Tsile neu Periw.

Enw[golygu | golygu cod]

Llun o ddyn yn cicio pêl yn yr awyr
Blaenwr Ruben Mendoza, o'r Unol Daleithiau, yn gwneud cic dros ben

Mae ambell i gyfeiriad at y 'gic dros ben' yn y cyfryngau Cymraeg.[1][2]. Mae e hefyd yn cael ei alw'n 'gic din dros ben', gan fod y symudiad yn debyg i hanner 'bwrw din dros ben'. [3][4].

Mewn ieithoedd eraill, mae'r enw yn adlewyrchu'r weithred. Casglodd y newyddiadurwr chwaraeon Alejandro Cisternas, o'r papur newydd o Tsile El Mercurio, restr o'r enwau.[5] Yn y rhan fwyaf o achosion, maen nhw yn cyfeirio at sisyrnau fel ciseaux retourné (siswrn yn dychwelyd) yn Ffrangeg a psalidaki yn Roeg. Fel arall gweithred seiclo ar feic yw'r cyfeiriad, megis pontapé de bicicleta.[5] ym Mortiwgaleg. Felly hefyd yn y Saesneg, ble gelwir y gic dros ben yn bicycle kick, overhead kick neu scissors kick.

Cyferiadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.faw.org.uk/news/FAW61841.ink[dolen marw]
  2. http://golwg360.cymru/chwaraeon/pel-droed/46910-bangor-yn-trechu-llanelli
  3. http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/185349-y-geltaidd-yn-ennill-ffeinal-ddramatig
  4. https://twitter.com/iolocheung/status/679674132074749954
  5. 5.0 5.1 "En Todas Partes Se Llama Chilena". Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2015. Unknown parameter |iaith= ignored (help); Unknown parameter |awdur= ignored (help); Unknown parameter |dyddiad= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Unknown parameter |gwaith= ignored (help)