Ci defaid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ci bugail)
Ci defaid
Enghraifft o'r canlynolmath o gi Edit this on Wikidata
Mathpastoral dog, ci gwaith Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Defaid y Goror yn corlannu defaid mewn ymryson cŵn defaid.

Ci sodli neu warchotgi a ddefnyddir wrth fugeilio defaid yw ci defaid,[1][2] ci bugail,[1][2] defeitgi,[3] bugeilgi,[4] preiddgi,[5] neu yn Ne Ddwyrain Cymru ci 'rhafod.[1] Mae bridiau o gŵn defaid yn tueddu i fod tua 60 cm (2 droedfedd) o daldra ac yn pwyso dros 23 kg (50 o bwysau).[6]

Fel rheol mae'r ci defaid yn gi o faint canolig gyda thrwyn pigfain. Mae rhan fwyaf o gŵn defaid wedi cael eu geni yn dda ar gyfer bugeilio, am mai nhw yw rhai o'r cŵn mwyaf ufudd yn y byd. Cŵn bywiog a chyfeillgar ydynt, ac mae llawer ohonynt bellach yn anifeiliad anwes. Mae'r gwahanol fridiau wedi tarddu yn Ewrop yn bennaf ac wedi lledaenu drwy sawl rhan o'r byd, yn enwedig yn Awstralia a Gogledd America. Ymhlith y bridiau mae'r Ci Defaid Cymreig (Bugeilgi Cymreig), y Ci Defaid Barfog (Coli Barfog), Ci Defaid Shetland, Ci Defaid y Goror (Coli'r Goror), y Ci Defaid Almaenig (Ci Alsás), y Ci Defaid Awstralaidd, a'r Ci Defaid Catalwnaidd.

Gwerthwyd y ci defaid drutaf yn y byd am £14,805 yn 2016.[7]

Cŵn defaid yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Defnyddid y bugeilgi i amddiffyn yn ogystal â rheoli'r preiddiau yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru. Yn Chwedl Culhwch ac Olwen dywedir: "bugail a'i afaelgi blewog, oedd yn fwy na cheffyl nawmlwydd… na chollodd oen erioed heb sôn am (ddafad)". Cyn amgau tiroedd arweiniai'r cŵn y preiddiau yn y bore a'u gyrru'n ôl i gorlannau yn y prynhawn a'u gwarchod dros nos.

Ceid sawl math o fugeilgwn Cymreig: y ci llwyd â'i gôt hirflew galed ddaeth yn boblogaidd ymysg porthmyn i yrru defaid a gwartheg i Loegr; y torgoch, yng Nghanolbarth Cymru yn bennaf; a'r bugeilgi mawr coch neu las. I yrru gwartheg defnyddiai'r porthmyn gŵn mawr cryfion allasai gerdded ymhell ac amddiffyn eu meistr rhag lladron. Datblygwyd corgwn i sodli gwartheg i'w symud yn lleol: corgi Ceredigion yn frowngoch a gwyn, neu las a gwyn, â chynffon hir, a chorgi Penfro â chynffon fer.

Gyda dyfodiad y rheilffyrdd o'r 1840au, pan ddaeth agen gwell rheolaeth i drycio anifeiliaid, a chau tiroedd mynydd yn yr 1850au–70au pan leihaodd yr angen am fugeilio, graddol ddisodlwyd y bugeilgwn gan y Ci Defaid Albanaidd (Coli Sgotaidd). Arweiniodd treialon cŵn defaid, a gychwynnwyd ym Mhrydain gan Stad Rhiwlas, Y Bala, ym 1873, at boblogeiddio'r Coli Sgotaidd ymhellach ac o ganlyniad aeth y bugeilgi Cymreig yn brin erbyn hanner ola'r 20g. Adferwyd diddordeb ynddynt er pan sefydlwyd y Gymdeithas Cŵn Defaid Cymreig ym 1997. Mae'r brîd yn amrywiol iawn o ran lliw a maint, a'r blewyn yn hir neu fyr. Maent yn gŵn mawr cryfion a nodweddir gan ddull o weithio sy'n wahanol i'r coli: nid ydynt yn setio ond yn gwasgu ar y defaid gan gyfarth a dal y gynffon yn uchel.

Aethpwyd â chŵn llwydion hirflew Cymreig i Batagonia ddiwedd y 19g, lle'u hadnabyddir heddiw fel y barboucho a cheir gwaed y bugeilgi Cymreig yng nghŵn defaid Awstralia, y kelpie.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [sheep].
  2. 2.0 2.1  ci. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Medi 2014.
  3.  defeitgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Medi 2014.
  4.  bugeilgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Medi 2014.
  5.  preiddgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Medi 2014.
  6. (Saesneg) Sheepdog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Medi 2014.
  7. (Saesneg) Sophie Jamieson, "Britain's most expensive sheepdog sells for £15,000 at auction", The Daily Telegraph (14 Mai 2016). Adalwyd ar 26 Mawrth 2018.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).