Ci Mynydd y Pyreneau

Oddi ar Wicipedia
Ci Mynydd y Pyreneau
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Mynydd y Pyreneau

Ci mynydd sy'n tarddu o'r Pyreneau yw Ci Mynydd y Pyreneau. Mae'n debyg ei fod yn tarddu o Asia yn y bôn, ac ymddangosodd yn Ewrop rhwng 1800 CC a 1000 CC. Roedd yn un o hoff gŵn y llys brenhinol yn Ffrainc yr 17g. Defnyddiwyd ym mynyddoedd y Pyreneau i warchod defaid rhag bleiddiaid ac eirth, gan ennill iddo enw da fel gwarchotgi. Cafodd ei ddefnyddio hefyd i dynnu certiau, ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gludo nwyddau gwaharddedig rhwng Ffrainc a Sbaen.[1]

Mae ganddo glustiau llipa a cherddediad siglog, a chôt hir a thrwchus o liw gwyn neu wyn gyda marciau llwyd a brown. Mae ganddo daldra o 63.5 i 81 cm (25 i 32 modfedd) ac yn pwyso 41 i 57 kg (90 i 125 o bwysau).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Great Pyrenees. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Medi 2014.