Chwyldro'r Aifft (2011)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Chwyldro'r Aifft, 2011)
Chwyldro'r Aifft
Enghraifft o'r canlynolprotest Edit this on Wikidata
Lladdwyd1,146 Edit this on Wikidata
Rhan oY Gwanwyn Arabaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Ionawr 2011 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadYr Aifft Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYr Aifft Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Protstiadau yn yr Aifft ar 25 Ionawr 2011
Rhai o'r protestwyr yn Sgwâr Tahrir, Cairo

Protestiadau ar strydoedd Cairo a dinasoedd eraill yn yr Aifft ydy Chwyldro'r Aifft, 2011 (neu'r Chwyldro Lotws), a'r mwyaf a welwyd ers "Terfysgoedd y Bara", 1977. Yr ysbrydoliaeth i'r protestiadau hyn, mae'n debyg, oedd y gwrthryfel a gafwyd yn Tiwnisia yn Rhagfyr 2010.[1]

Cychwynodd yr anhrefn ar 25 Ionawr 2011 pan drefnodd "Mudiad Ieuenctid y 6ed o Ebrill" brotest yn erbyn Arlywydd Mubarak.[2] Dewisiwyd y dyddiad (Dydd Santes Dwynwen, yng Nghymru) gan mai dyma Ddiwrnod Cenedlaethol yr Heddlu yn yr Aifft. Ymosodwyd ar orsafoedd yr heddlu ac o fewn dyddiau diflannodd yr heddlu drwy'r wlad gyfan, heddlu a fu gynt mor bwerus a threisgar. Canolbwynt y protestiadau oedd Sgwâr Tahrir, Cairo.

Cairo[golygu | golygu cod]

Ar 2 Chwefror ymgasglodd rai miloedd o sifiliaid pro-Mubarak gerllaw Sgwâr Tahrir, ac ymosodwyd ar geffylau ac ar gamelod ar y protestwyr, a hynny gyda chyllyll a chleddyfau. Roedd y rhan fwyaf o'r rheiny a ddaliwyd o'r garfan pro-Mubarak yn gyn-aelodau o'r heddlu. Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban-ki Moon, yr Arlywydd Obama a David Cameron yn erbyn y trais.

Ar 3 Chwefror cyhoeddodd y Llywydd Mubarak mai estronwyr oedd y protestwyr yn Sgwâr Tahrir, ac nad oedd am ymddiswyddo o'i waith am o leiaf 200 diwrnod.

Rhannau eraill o'r Aifft[golygu | golygu cod]

Cafwyd protestio ledled y wlad. Hyd at 1 Chwefror credir fod 22 wedi marw yn Alexandria, 31 yn Suez a 44 yn y brifddinas.

Ymddiswyddiad yr Arlywydd Mubarak[golygu | golygu cod]

Ar 18ed diwrnod y protestio, cyhoeddwyd ymddiswyddiad yr Arlywydd a throsglwyddwyd grym y wlad i'r Llu Arfog.

Llyfrau am y chwyldro[golygu | golygu cod]

  • Llyfr y chwyldro Aifft, Ac sydd wedi ei gyfieithu i'r Saesneg a Ffrangeg, Awdur Gwleidyddol [[Ahmed Ghanem]. [3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]