Chwech Oes y Byd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Farn Fawr ar ddiwedd Oes Olaf y Byd (o destun o Lyfr Genesis yng Nghadeirlan Caerwynt)

Yn yr Oesoedd Canol yr oedd haneswyr, gan ddilyn y traddodiad Cristnogol, yn dosbarthu hanes y Byd yn chwech oes. Weithiau ychwanegid seithfed oes trwy gyfrif cyfnod cenhadaeth Iesu Grist fel y chweched oes a'r cyfnod ar ôl hynny fel y seithfed.

Cynnwys

[golygu] Yr Oes Cyntaf

O Greu y Byd gan Dduw hyd at y Dilyw, h.y. o amser Adda ac Efa yng Ngardd Eden hyd amser Noa. Cyfnod o 2,242 mlynedd.

[golygu] Yr Ail Oes

O'r Dilyw hyd oes Abraham. Cyfnod o 942 mlynedd.

[golygu] Y Drydedd Oes

O amser Abraham hyd amser Dafydd, brenin Israel. Cyfnod o 500 mlynedd.

[golygu] Y Bedwaredd Oes

O amser Dafydd hyd amser y proffwyd Daniel a Nebuchodnesar, brenin Babilon, pan gaethiwyd yr Iddewon "ar lannau Babilon". Cyfnod o 569 mlynedd.

[golygu] Y Bumed Oes

O amser Daniel hyd amser Ioan Fedyddiwr a genedigaeth Crist. Cyfnod o 566 mlynedd.

[golygu] Y Chweched Oes

O amser Ioan Fedyddiwr hyd Ddydd y Farn ar Ddiwedd y Byd.


Ichthus.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill