Chwarel Maenofferen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Melin Chwarel Maenofferen.
Gwaith ar yr wyneb yn Chwarel Maenofferen. Gellir gweld hen siamberi Chwarel Bowydd.

Chwarel lechi ger Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd yw Chwarel Maenofferen. Mae'n dal yn cynhyrchu llechfaen wedi ei falu.

Hanes[golygu]

Dechreuwyd gweithio safle Maenofferen yn fuan wedi 1800 gan weithwyr o Chwarel Diffwys gerllaw. Erbyn 1848 roedd llechi oddi yma yn cael eu cario ar Reilffordd Ffestiniog. Gelwid y chwarel gyntaf ar y safle yn chwarel David Jones.

Yn 1860 crewyd Llyn Newydd fel cronfa ddŵr i gyflenwi anghenion y chwarel trwy adeiladu argae. Defnyddid y dŵr i yrru peiriannau'r charel, ac yn 1918 i gynhyrchu trydan. Yn 1861 ffurfiwyd cwmni'r Maenofferen Slate Quarry Co. Ltd.. Cynhyrchwyd tua 400 tunnell o lechi y flwyddyn honno, ac yn 1862 cymerodd y cwmni lês ar gei ym mhorthladd Porthmadog,

Tyfodd y chwarel, gam ymestyn o dan y ddaear ac i lawr y llechwedd i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog. Erbyn 1897 roedd yn cyflogi 429 o weithwyr, tua hanner y rhain dan ddaear. Nid oedd gan y chwarel yma gysylltiad uniongyrchol a Rheilffordd Ffestiniog; defnyddid Tramffordd Rhiwbach i'w cludo at y rheilffordd.

Yn 1908 cymerodd y cwmni lês ar gei ym Minffordd, lle roedd offer i drosgwyddo llechi o'r trên bach i'r trên mawr. Prynodd y cwmni Chwarel Rhiwbach yn 1928. Pan ddaeth Rheilffordd Ffestiniog i ben yn 1946, cymerodd Maenofferen lês ar ran o'r hen drac i gludo llechi at reilffordd yr LMS. O 1962 ymlaen, defnyddid lorïau i gludo'r llechi.

Y chwarel heddiw[golygu]

Prynwyd y chwarel gan berchenofion Chwarel Llechwedd yn 1975. Daeth y gwaith tanddaearol i ben ym mis Tachwedd 1999; hwn oedd y gwaith tanddaearol olaf yng ngogledd Cymru i'w weithio ar raddfa fawr. Erbyn hyn mae'r chwarel yn cael ei gweithio o'r wyneb, gan weithio'r llechfaen o'r pileri rhwng y siamberi..