Chwarel Llechwedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adfeilion yr hen bwerdy yn Chwarel Llechwedd.

Chwarel lechi ger Blaenau Ffestiniog yn sir Gwynedd yw Chwarel Llechwedd.

Hanes[golygu]

Roedd yn un o'r chwareli mwyaf yn yr ardal; yn 1884 cynhyrchwyd 23,788 tunnell o lechi gan 513 o weithwyr. Agorwyd y chwarel yn 1846 gan John W. Greaves. Roedd ganddo eisoes lês ar chwareli Diffwys a Bowydd. Yn 1846 rhoddodd Greaves a'i bartner Edwin Shelton y gorau i chwarel Bowydd a chymeryd lês ar dir pori gerllaw. Y flwyddyn ddilynol, 1847, cafodd ei weithwyr hyd i'r "Hen Wythïen", a dechreuodd y chwarel ddatblygu'n gyflym dan fab J.W. Greaves, Ernest Greaves. Adeiladwyd incên i gysylltu'r chwarel a Rheilffordd Ffestiniog yn 1848.

Cynhyrchwyd 2,900 tunnell o lechi yn 1851, a symudodd y cwmni ei swyddfeydd i dref Porthmadog, lle adeiladwyd cei arbennig ar gyfer Llechwedd yn 1853. Erbyn 1863 roedd y cynnyrch blynyddol yn 7,620 tunnell. Yn 1890 dechreuodd Llechwedd ddefnyddio peiriannau trydan, y cyntaf o chwareli ardal Ffestiniog i wneud hyn. Roedd yn cynhyrchu ei thrydan ei hun, gan ddefnyddio dŵr o Lynnau Barlwyd.

Y Llechwedd heddiw[golygu]

Mae'r Llechwedd yn parhau i gynhyrchu llechi ar raddfa fechan, ac agorwyd rhan o'r hen weithfeydd i dwristiaid, sef Ogofâu Llechwedd.

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]

  • AditNow - Lluniau o Chwarel Llewchwedd