Chwarel Glanrafon

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Glanrafon

Chwarel lechi ar ochr orllewinol yr Wyddfa oedd Chwarel Glanrafon, hefyd West Snowdon. Saif i'r gogledd ddwyrain o bentref Rhyd Ddu (cyf. OS: SH581540).

Chwarel Glanrafon oedd chwarel fwyaf yr ardal. Ehangwyd hi yn y 1870au, pan gafwyd cysylltiad rheilffordd, ac erbyn canol y 1890au roedd dros 400 o weithwyr yn cael eu cyflogi. Caewyd hi yn 1915.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)


Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato