Chrysler

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Chrysler Group LLC
Chrysler starlogo.svg
Math Cwmni cyfyngedig
Sefydlwyd 6 Mehefin 1925 (Chrysler Corporation)
10 Mehefin 2009 (Chrysler Group LLC)
Sylfaenydd Walter Chrysler
Rhagflaenydd Chrysler LLC
(2007–2009)
DaimlerChrysler AG
(1998–2007)
Chrysler Corporation
(1925–1998)
Pencadlys Auburn Hills, Michigan, UDA
Nifer lleoliadau Rhestr ffatrïoedd Chrysler
Ardal wasanaethu Byd-eang
Pobl blaenllaw Sergio Marchionne
(Cadeirydd a Phrif Weithredwr) a Phrif Weithredwr Fiat
Diwydiant Ceir
Cynnyrch Ceir a cherbydau ffordd
Rhannau ceir
Refeniw increase UDA$ 65.78 biliwn (2012)[1]
Incwm gweithredol increase UDA$ 1.942 biliwn (2012)[1]
Incwm net increase UDA$ 1.668 biliwn (2012)[1]
Cyfanswm asedau increase UDA$ 40.971 biliwn (2012)[1]
Soddgyfran Decrease UDA$ -7.259 biliwn (2012)[1]
Perchennog Fiat S.p.A. (61.8%)
UAW VEBA (38.2%)
Gweithwyr 65,535 (Rhagfyr 2012)[1]
Adrannau Chrysler
Dodge
Jeep
Ram
Fiat (UDA)
Mopar
SRT
Is-gwmnïau Chrysler Australia
Chrysler Canada
GEM
Gwefan ChryslerGroupLLC.com

Gwneuthurwr ceir Americanaidd yw Chrysler Group LLC (play /ˈkrslər/) sydd â'i bencadlys yn Auburn Hills, Michigan, ac a berchenogir yn bennaf gan gwmni Fiat. Mae Chrysler yn un o'r "Tri Mawr" o wneuthurwyr ceir Americanaidd. Mae'n gwerthu cerbydau o gwmpas y byd dan ei brif frand Chrysler, yn ogystal â'r brandiau Dodge, Jeep, a Ram; mae hefyd yn cynhyrchu cerbydau a werthir dan frand Fiat yng Ngogledd America. Mae prif adrannau eraill Chrysler yn cynnwys Mopar, sef ei adran sy'n cynhyrchu rhannau ac ategolion ceir, a SRT, ei adran ceir perfformiad. Yn 2011, roedd Chrysler Group (heb gynnwys Fiat) yn y gwneuthurwr ceir deuddegfed fwyaf yn y byd yn nhermau cynhyrchu.[2]

Sefydlwyd The Chrysler Corporation gan Walter Chrysler ym 1925,[3] o olion y Maxwell Motor Company. Ehangodd Chrysler ym 1928 gan brynu'r cwmni tryciau Fargo a Dodge Brothers Company a dechreuodd gwerthu cerbydau dan y brandiau hynny; yn yr un flwyddyn sefydlodd y brandiau Plymouth a DeSoto. Gostyngodd werthiannau Chrysler yn y 1970au o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys argyfwng olew 1973, ac erbyn diwedd y ddegawd honno roedd Chrysler bron â methdalu. Dan y Prif Weithredwr Lee Iacocca dychwelodd y cwmni at wneud elw digonol yn y 1980au. Prynodd Chrysler yr American Motors Corporation ym 1987, a gynhyrchodd y brand llwyddiannus Jeep.

Cyfunodd Chrysler â'r gwneuthurwr ceir Almaenig Daimler-Benz AG ym 1998 gan ffurfio DaimlerChrysler; yr oedd nifer o fuddsoddwyr yn erbyn y cyfuno a gwerthwyd Chrysler i Cerberus Capital Management a chafodd ei ail-enwi'n Chrysler LLC yn 2007. Cafodd Chrysler a chwmnïu eraill y Tri Mawr eu taro'n drawm gan argyfwng y diwydiant ceir yn 2008–10 a derbynnodd Chrysler a General Motors biliynau o ddoleri mewn benthyciadau gan lywodraeth yr Unol Daleithiau yn 2008–9 i'w hatal rhag cau i lawr. Wynebodd Chrysler fethdaliad ar 30 Ebrill 2009 ond ar 10 Mehefin 2009 cytunwyd i'r cwmni gael ei berchen gan Fiat, cronfa pensiwn yr United Auto Workers, a llywodraethau'r Unol Daleithiau a Chanada. Ers hynny mae Fiat wedi prynu cyfranddaliadau'r perchenogion eraill yn raddol a bellach Fiat sydd gan berchenogaeth fwyafrifol y cwmni.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: