Christophe Agnolutto

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Christophe Agnolutto
Christophe Agnolutto
Manylion Personol
Enw Llawn Christophe Agnolutto
Dyddiad geni (1969-12-06)

6 Rhagfyr 1969 (45 oed)

Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Ffordd
Rôl Reidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
1996-1999
2000-2001
2002-2004
2005-2006
Petit Casino
Ag2r Decathlon
Ag2r Prévoyance
Agritubel
Golygwyd ddiwethaf ar:
9 Hydref 2007

Seiclwr proffesiynol Ffrengig oedd Christophe Agnolutto (ganwyd 6 Rhagfyr 1969, Soisy-Sur-Montmorency, Paris).

Ei gampweithiau pennaf yw ennill cymal 7 yn Tour de France 2000 ar ôl reidio ar ei ben ei hun am 80 o'r 127 kilomedr o Tours i Limoges. Mewn steil tebyg, enillodd Tour de Suisse 1997 yn annisgwyl, pan na aeth yr enwogion yn y ras ar ei ôl pan dorrodd i ffwrdd o flaen y ras ar yr ail gymal, nid oedd unrhywun yn gallu adennill yr amser a gollasont iddo yn y cymal hon a daliodd ymlaen i grys yr arweinydd hyd ddiwedd y ras.

Ymddeolodd Agnolutto ar ddiwedd tymor rasio 2006.[1]

Canlyniadau[golygu]

1997
1af Tour de Suisse (2.1)
1af Cymal 2, Tour de Suisse (2.1)
1af A Travers le Morbihan (1.2)
97fed Tour de France
1998
1af Cymal 6, Tour de Romandie (2.HC)
31af Tour de France
1999
1af Brenin y Mynyddoedd Tour de Luxembourg (2.2)
2000
66ed Tour de France (2.HC)
1af Cymal 7, Tour de France
2001
120fed Tour de France
2002
144ydd Tour de France
2004
3ydd Tour de la Region Wallonne (2.3)
2005
1af Cymal1, Tour du Poitou Charentes de la Vienne (2.1)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ymddeoliad Agnolutto