Christmas (albwm Michael Bublé)

Oddi ar Wicipedia
Christmas
Enghraifft o'r canlynolalbwm Edit this on Wikidata
Rhan oMichael Bublé's albums in chronological order Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi24 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
Label recordio143 Records, Reprise Records Edit this on Wikidata
Genrejazz Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Hyd3,104 eiliad Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrDavid Foster Edit this on Wikidata
Michael Bublé


Christmas yw'r seithfed albwm stiwdio gan y canwr Canadaidd Michael Bublé. Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar Hydref 21, 2011 yn Iwerddon, 24 Hydref 2011 yn y Deyrnas Unedig a 25 Hydref 2011 yn yr Unol Daleithiau America. Ar yr wythnos yn gorffen ar Rhagfyr 10, 2011, daeth yr albwm i Rhif 1 ar y siart gwerthiannau albwm 200 Billboard, dyma'r drydedd albwm gan Bublé i fod yn Rhif 1, yn dilyn Call Me Irresponsible yn 2007 a Crazy Love yn 2009. Roedd yr albwm yn Rhif 1 am bump wythnos.[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Dyma ail albwm Nadoligaidd Bublé, ar ôl iddo cyhoeddi albwm pum trac Let It Snow yn 2003. Roedd rhai o'r caneon o Let It Snow wedi cael eu hail-recordio ar gyfer Christmas, yn gwneud Christmas yn albwm llawn o ganeuon Nadoligaidd. Ar gyfer yr albwm, roedd Bublé wedi gweithio gydag artistiad eraill er mwyn recordio deuawdau. Mae ei ddeuawd o White Christmas gyda'r canwr gwledig Shania Twain yn seiliedig ar drefniant blaenoral gan y bandThe Drifters.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Michael Bublé Weekend At Brown Thomas". Dailyupdate.ie. Hydref 21, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 16, 2012. Cyrchwyd Rhagfyr 2, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "hmv". hmv. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 24, 2012. Cyrchwyd Rhagfyr 2, 2012. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)