Chris Coleman (pêl-droediwr)

Oddi ar Wicipedia
Chris Coleman
Coleman gyda tîm Cymru yn 2016
Manylion Personol
Enw llawn Christopher Coleman
Llysenw Cookie
Dyddiad geni (1970-06-10) 10 Mehefin 1970 (53 oed)
Man geni Abertawe, Baner Cymru Cymru
Clybiau Iau
Manchester City
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1987-1991
1991-1995
1995-1997
1977-2002
Abertawe
Crystal Palace
Blackburn Rovers
Fulham
Cyfanswm
160 (2)
154 (13)
28 (0)
136 (8)
478 (23)
Tîm Cenedlaethol
1992-2002 Cymru 32 (4)
Clybiau a reolwyd
2003-2007
2007-2008
2008-2010
2011-2012
2012-2017
Fulham
Real Sociedad
Coventry City
Larissa
Cymru

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Rheolwr a chyn bêl-droediwr o Gymru yw Christopher "Chris" Coleman, OBE (ganwyd 10 Mehefin 1970 yn Abertawe).

Gyrfa fel chwaraewr[golygu | golygu cod]

Chwaraeai fel amddiffynnwr ond weithiau byddai'n chwarae fel blaenwr. Dechreuodd ei yrfa gyda Abertawe yn 17 oed, cyn symud i Crystal Palace yn 1991. Fe'i brynwyd gan Blackburn Rovers am £2.8 miliwn yn 1995, ond wedi dim ond 28 ymddangosiad mewn tymor a hanner, fe gymmerodd gambl drwy ymuno â thîm Fulham a oedd dwy adran yn is ar y pryd. Arweniniodd Fulham i ddyrchafiad i'r Adran Gyntaf fel capten yn nhymor 1998/1999. Yn mis Ionawr 2001, fe dorrodd ei goes mewn damwain car, ac arweiniodd hyn at ei ymddeoliad cynnar yn 2002.

Enillodd 32 o gapiau dros Gymru.

Gyrfa fel rheolwr[golygu | golygu cod]

Fulham[golygu | golygu cod]

Daeth yn reolwr dros-dro i Fulham ar ddiwedd tymor 2002/2003 ac arwain y tîm o berygl disgyn allan o'r Uwchgynghair. Fe'i benodwyr yn reolwr llawn amser yn mis Mai 2003 a dod yn rholwr ieuengaf erioed yn yr Uwchgyngrhair. Cafod ei ddiswyddo yn Ebrill 2007 yn dilyn rhediad o saith gêm heb fuddigoliaeth.

Real Sociedad[golygu | golygu cod]

Daeth Coleman yn reolwr ar Real Sociedad ar 28 Mehefin 2007. Roedd y clwb newydd ddisgyn o brif adran Sbaen y tymor cynt, ac fe ddechreuodd y tymor yn wael, ond fe wellodd y canlyniadau. Ymddiswyddodd yn Ionawr 2008 gan ddweud nad oedd yn cytuno â gweledigaeth perchennog newydd y clwb.

Coventry City[golygu | golygu cod]

Penodwyd yn reolwr ar Coventry City yn mis Chwefror 2008 hyd mis Mai 2010.

Sunderland[golygu | golygu cod]

Wedi gadael ei swydd gyda tîm Cymru cafodd ei benodi fel rheolwr Sunderland yn Nhachwedd 2017. Erbyn diwedd Ebrill 2018 dim ond 5 gêm allan o 29 enillodd y clwb a bydd y tîm yn gostwng i'r Adran Gyntaf yn nhymor 2018/19. Diswyddwyd Coleman o'i swydd ar 29 Ebrill 2018.[1]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Yn Hydref 2016, dyfarnwyd rhyddid Abertawe iddo ac yn Rhagfyr 2016 derbyniodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru am arwain ei dîm i rownd gynderfynol Ewrop 2016. Derbyniodd OBE am ei wasanaeth i'r byd pêl-droed yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn Ionawr 2017. Ar 11 Ionawr 2017 derbyniodd Gradd MSc er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.[2] Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chris Coleman wedi gadael Sunderland , Golwg360, 29 Ebrill 2018.
  2.  Prifysgol Abertawe'n dyfarnu Gradd er Anrhydedd i Christopher Coleman. Prifysgol Abertawe (11 Ionawr 2017). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2017.
  3.  Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.