Choppy Warburton

Oddi ar Wicipedia
Choppy Warburton
Ganwyd13 Tachwedd 1845 Edit this on Wikidata
Haslingden Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1897 Edit this on Wikidata
Wood Green Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Athletwr Seisnig a hyfforddwr seiclwyr adnabyddus oedd James Edward Warburton neu Choppy Warburton fel yr adnabyddwyd (13 Tachwedd 1845[1][2]18 Rhagfyr 1897[3]).[4] Canfwyd potensial Warburton fel rhedwr pan oedd yn 17 oed, gan ei gyflogwr yn melin gotwm Hutch Bank Mill, sef John Duckworth. Cystadlodd fel athletwr amatur rhwng 1866 a 1879 cyn troi'n broffesiynol yn 34 oed. Enillodd dros 500 o wobrau cyntaf, gan gynnwys 75 cwpan ac chystadlu ar draws gogledd Lloegr, mewn rasus a amrywiodd yn eu hyd o filltir i 20 milltir, gwaneth hyn oll tra roedd wedi ei gyflogi'n llawn amser fel dyn warws. Ymwelodd Warburton a'i frawd George yn yr Unol Daleithiau yn 1880, gan gystadlu tra yno ac ennill 80 o gypannau a medalau.[1]

Fe hyfforddodd Warburton tri pencampwr seiclo'r byd,[5] ymysg y chwaraewyr a hyfforddodd oedd y seiclwyr Jimmy Michael a'r brodyr Thomas ac Arthur Linton o Aberaman, Rhondda Cynon Taf, a dorodd nifer o recordiau. Mae llwyddiant Warburtons wedi cael ei gwestiynu, ac mae amau y defnyddiodd gyffuriau ar ei chwaraewyr.[5] Yn ôl pob sôn, cyhuddodd Michael Warburton o'i wenwyno, cyn i Warburton ei erlid i'r llys am enllib.[6] Cafodd Warburton ei wahardd am gyfnod yn dilyn achlust ei fod yn pwmpio'i athletwyr yn llawn cyffuriau. Disgrifwyd Arthur Linton gan The Anti Doping Forum yn Sydney 2004, fel y marwolaeth cyntaf athletwr oherwydd cyffuriau a'i adroddwyd, pan fu farw o ddos gormodol o strychnine yn 1886,[7] er i ffynonellau adrodd yr achos i fod yn typhoid, mae'n debyg mai trio cuddio'r gwir yr oeddynt.[3] Yn ôl y Lancashire Family History Society, adnabyddwyd Choppy yn gadarnhaol fel y person a oedd yn gyfrifol am ddechrau'r arfer o gymryd cyffuriau gan seiclwyr yn yr 19g."[1]

Ymddangosodd Warburton mewn darlun o Michael gan Henri de Toulouse-Lautrec, yr arlunudd Ffrengig enwog, ar gyfer posteer i hysbysebu noddwr Michael ar y pryd, sef cwmni gadwyni Simpson.[8] Fe brynnodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru un o'r posteri yn yr 1960au ond nid yw'n cael ei arddangos.[9]

Ganwyd yn Coal Hey, oddiar Lower Deardengate, yn Haslingden, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i James Warburton, a Harriet Birtwistle (gweddw, ei llysenw oedd Morris), yn hynaf o 12 o blant, dim ond 6 o'r plant a oroesodd. Er fod y tŷ lle'i ganwyd yn dal i sefyll ac mae plac glas arni, nid yw'n gofeb ar gyfer Warburton.[1] Bu'n berchennog y Fisher’s Arms yn Birley Street, Blackburn ar un adeg.[4] Bu farw Warburton yn Wood Green, Llundain.[4]

Dywedir iddo ennill ei lysenw Choppy gan ei dad, llongwr, a ymatebodd gyda 'choppy', prydbynnag y gofynnwyd iddo sut oedd y tywydd ar ei fordaith diwethaf,[4] er, yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ei dad yn gweithio fel gwehydd gwŷdd pŵer mewn melin gotwm.[10]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Richard O. Watson (1 Tachwedd 2006). Choppy Warburton Long Distance Runner and Trainer of Cycling Champions. E Wileybooks. ISBN 9780955364709

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Book Review: ‘Choppy’ Warburton. Lancashire Family History Society (Hydref 2006).
  2.  BDM Indexes, Oct/Nov/Dec 1845 - James Edward Warbuton; Adal Cofrestru: Haslingden; Cyfrol: 21; Tud: 459;. Ancestry (angen cofrestru- am ddim).
  3. 3.0 3.1  Speed freaks who raced to an early grave. The Times (5 Awst 2006).
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3  Choppy Warburton. Cotton Town.
  5. 5.0 5.1  Cheating and drugs in sport. BBC (14 October 2003).
  6.  "Choppy" Warburton Dead. New York Times (19 Rhagfyr 1897).
  7.  Podofdonny (10 Ionawr 2005). Magnus Goes for Record - History of the Derny Paced Hour. Pro Cycling News.
  8.  Henri de Toulouse-Lautrec.
  9.  Anthony Brockway (14 Mai 2006). Toulouse-Lautrec and the Welsh Cyclist.
  10. Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 1871, Coal Hey, Haslingden Swydd Gaerhirfryn