Chilpancingo
Oddi ar Wicipedia
Dinas ym Mexico yw Chilpancingo (neu Chilpancingo de los Bravo; hefyd Ciudad Bravo weithiau), sy'n brifddinas talaith Guerrero. Fe'i lleolir yn y mynyddoedd i'r de-orllewin o Ddinas Mexico ar y Briffordd Ffederal 95 - yr Autopista del Sol (Traffordd yr Haul) - sy'n ei chysylltu hefyd gyda Acapulco ar yr arfordir i'r de. Poblogaeth: 166,796 (2005).